• Tric a Chlic ar gyfer Ysgolion Cyfrwng Saesneg - Cynllun Cyflawn

Yn sgil datblygiad Cwricwlwm i Gymru 2022, a chyfraniad y cwricwlwm hwn i nod Llywodraeth Cymru o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, rydym wedi datblygu addasiad arbennig o Tric a Chlic ar gyfer ysgolion cyfrwng Saesneg, er mwyn eu cynorthwyo i gyflwyno’r Gymraeg yn llwyddiannus yn eu hysgolion.

Mae plant mewn ysgolion lle nad yw'r Cymraeg yn iaith gyntaf yn gweithredu rhaglen ffoneg synthetig, yn barod, trwy gyfrwng y Saesneg. Cynllun yw sy'n dilyn strwythur pendant mewn ffordd systematig, cyflym a chyffrous.

Yn sgîl hyn, daw'r plant i adnabod sain a ffurf llythrennau gan symud gam ymhellach i ddysgu strategaethau cyfuno i ddarllen a rhannu geiriau wrth sillafu. Oherwydd bod eu strategaethau darllen cynnar yn gryf yn y famiaith, mae'n broses naturiol i adeiladu ar eu gwybodaeth gan gyflwyno cynllun, sy'n dilyn yr un broses ond yn yr iaith Gymraeg. Wrth ddefnyddio eu gwybodaeth flaenorol fe ddaw'r plant i ddarllen a sillafu yn y Gymraeg wrth ddefnyddio cynllun newydd 'Tric a Chlic'.

Y cwestiwn sy'n codi yn dilyn y broses o ddarllen yw: 'Ydy'r plant yn deall yr hyn a ddarllenir?' Mewn ymateb i'r cwestiwn lluniwyd cyfres o gwestiynau dwyieithog, wedi'u graddoli, er budd yr athrawon, gan annog y plant i bori drwy'r cliwiau yn y llyfr. Hefyd ychwanegwyd gemau addas a chaneuon pwrpasol i atgyfnerthu yr hyn a addysgwyd. Bydd ap Tric a Chlic o fudd, eto i atgyfnerthu mewn ffordd gyffrous gan ddefnyddio technoleg fodern. 


Tric a Chlic

  • Adeiladu ar wybodaeth y plant.
  • Wedi ei dreialu mewn ysgolion.
  • Yn hwyl gan ddefnyddio'r synhwyrau.
  • Yn adnodd parod i'w ddefnyddio.
  • Annog plant i siarad, darllen, trafod, sillafu ac ysgrifennu trwy gyfrwng y Gymraeg.


Y pecyn yma'n cynnwys:

Cam 1

  • 26 llyfrau - 6 o bob un
  • 128 cardiau A5
  • 20 stribedi darllen A4 i'w dorri
  • 21 A4 cardiau gêm

Cam 2

  • 7 llyfrau - 6 o bob un
  • 78 cardiau A5
  • 20 stribedi darllen A4 i'w dorri
  • 46 cardiau adolygu A5 o Gam 1
  • 11 A4 cardiau gêm

Cam 3

  • 10 llyfrau - 6 o bob un
  • 163 cardiau A5
  • 34 stribedi darllen A4 i'w dorri
  • 14 A4 cardiau gêm
Gwybodaeth
ISBN 978-1-78390-237-8
Awdur Eirian Lloyd Jones
Ar gael yn Dwyieithog
Dylunydd Rhiannon Sparks

Ysgrifennu adolygiad

Angen mewngofnodi neu cofrestru i rhoi adolygiad.

Tric a Chlic ar gyfer Ysgolion Cyfrwng Saesneg - Cynllun Cyflawn

  • Côd cynnyrch: TACEMC
  • ISBN: 9781783902378
  • Argaeledd: Mewn Stoc
  • £599.00

  • Ac eithrio TAW: £599.00