Dewch i Deithio a Dysgu - Sbaeneg Patagonia

Pris rheolaidd £650.00
Pris rheolaidd £650.00 Pris arbennig £650.00
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.
Math

Hoffech chi gyflwyno Sbaeneg Patagonia i’ch dysgwyr?  Dyma becyn addysgiadol cynhwysfawr i gyflwyno’r iaith i ddysgwyr gyda chymorth Min a Mei a’u ffrindiau yn Ysgol y Cwm, Trevelin, Patagonia.

Mae dwy brif elfen i’r pecyn:

  1. Hyfforddiant – bydd angen i unrhyw ymarferwr sy eisiau gweithredu’r pecyn fynychu hanner diwrnod o hyfforddiant, gydag opsiwn i fynychu wyneb yn wyneb yng Nghaerfyrddin neu arlein dros Teams ddechrau mis Medi.
  2. Pecyn adnoddau digidol i’w lawrlwytho – 7 Uned cyflawn o waith i’w cyflwyno dros hanner tymor/tymor cyfan. Bydd pob Uned yn cynnwys cynlluniau gwersi cyflawn, clipiau fideo, gweithgareddau, caneuon, ffeiliau sain ac adnoddau y gellir eu hargraffu i gyflwyno elfennau syml o’r iaith i ddysgwyr.  Bydd y pecyn hefyd yn cynnwys sioe yn Sbaeneg y gellir ei pherfformio ar ddiwedd y saith uned. 

Nid oes angen unrhyw wybodaeth o’r iaith Sbaeneg ar ymarferydd i gyflwyno’r adnoddau.  Pris y pecyn ydy £650.  Mae’r ffi yn cynnwys un aelod o staff i fynychu’r hyfforddiant, gyda phob aelod ychwanegol o staff yn £85 yr un.  Yn ogystal, mae’n cynnwys trwydded i’r ysgol ddefnyddio’r deunyddiau mewn unrhyw ddosbarth oddi fewn i ysgol y prynwr yn unig. 

Ar ôl prynu’r pecyn, byddwch yn derbyn e-bost er mwyn dewis naill ai hyfforddiant wyneb yn wyneb neu arlein.  Byddwch yn derbyn y Llawlyfr a’r pecyn digidol (Uned 1-7 a’r perfformiad) rai diwrnodau cyn yr hyfforddiant er mwyn i chi fedru lawrlwytho’r cyfan ar eich dyfais cyn dod.  Sylwch y bydd yr adnoddau yn cyrraedd e-bost y sawl wnaeth archebu oddi ar y siop.

 

Cysylltwch â post@peniarth.cymru am wybodaeth bellach.