Telerau gwasanaeth

Byddwch yn ymwybodol o gynnwys y polisi hwn. Mae defnyddio'r wefan https://siop.peniarth.cymru a phrynu cynnyrch neu wasanaethau o'r wefan yn golygu eich bod yn cytuno ar y telerau a’r amodau hyn.

Mae dogfennau perthnasol eraill, y cyfeirir atynt isod, yn cynnwys:

  • Polisi preifatrwydd: y telerau ar gyfer prosesu data personol a gesglir gan ddefnyddwyr neu a ddarperir i ni gan ddefnyddwyr.
  • Polisi cwcis: gwybodaeth am y cwcis a ddefnyddir ar y wefan hon.

Mae'r penawdau a ddefnyddir yn y cytundeb hwn wedi'u cynnwys er hwylustod yn unig ac ni fyddant yn cyfyngu nac yn effeithio fel arall ar y Telerau hyn.

AMDANOM NI

Mae'r wefan hon yn cael ei gweithredu gan Peniarth, sef adran ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (www.pcydds.ac.uk)

Ar yr holl safle, mae'r termau "ni" ac "ein" yn cyfeirio at Peniarth. Mae Peniarth yn cynnig y wefan hon, gan gynnwys yr holl wybodaeth, offer a gwasanaethau sydd ar gael o'r wefan hon i chi, y defnyddiwr, ar yr amod eich bod yn derbyn yr holl delerau, amodau, polisïau a hysbysiadau a nodir yma.

Trwy fynd i'n gwefan a/neu brynu rhywbeth gennym ni, rydych yn ymwneud â’n "Gwasanaeth" ac yn cytuno i gael eich rhwymo gan y telerau a'r amodau canlynol ("Telerau Gwasanaeth", "Telerau"), gan gynnwys y telerau a’r amodau a'r polisïau ychwanegol hynny y cyfeirir atynt yma a/neu ar gael trwy hyperddolen. Mae'r Telerau Gwasanaeth hyn yn berthnasol i holl ddefnyddwyr y wefan, gan gynnwys defnyddwyr heb gyfyngiad sy'n borwyr, gwerthwyr, cwsmeriaid, masnachwyr a/neu gyfranwyr cynnwys.

Darllenwch y Telerau Gwasanaeth hyn yn ofalus cyn cyrchu neu ddefnyddio ein gwefan. Trwy gyrchu neu ddefnyddio unrhyw ran o'r wefan, rydych yn cytuno i gael eich rhwymo gan y Telerau Gwasanaeth hyn. Os nad ydych yn cytuno â holl delerau ac amodau'r cytundeb hwn, ni ddylech ddefnyddio'r wefan, nac unrhyw wasanaethau sydd wedi'u cynnwys ynddo.

Bydd unrhyw nodweddion neu offer newydd sy'n cael eu hychwanegu at y siop bresennol hefyd yn ddarostyngedig i'r Telerau Gwasanaeth. Gallwch adolygu'r fersiwn fwyaf cyfredol o'r Telerau Gwasanaeth ar unrhyw adeg ar y dudalen hon. Rydym yn cadw'r hawl i ddiweddaru, newid neu amnewid unrhyw ran o'r Telerau Gwasanaeth hyn trwy bostio diweddariadau a/neu newidiadau i'n gwefan. Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio'r dudalen hon o bryd i'w gilydd am newidiadau. Mae eich defnydd parhaus o'r wefan neu fynediad iddi ar ôl postio unrhyw newidiadau yn golygu derbyn y newidiadau hynny.

Shopify Inc sy’n cynnal ein siop. Maent yn darparu'r platfform e-fasnach ar-lein i ni sy'n caniatáu inni werthu ein cynnyrch a'n gwasanaethau i chi.

ADRAN 1 - TELERAU SIOPAU AR-LEIN

Trwy brynu gennym ni, rydych yn cytuno i fod yn ddarostyngedig i'r Telerau Gwasanaeth hyn. I brynu gennym ni, rydych yn datgan eich bod yn 18 oed o leiaf.

Ni chewch ddefnyddio ein cynnyrch at unrhyw ddiben anghyfreithlon neu anawdurdodedig ac ni chewch, wrth ddefnyddio'r Gwasanaeth, dorri unrhyw gyfreithiau yn eich awdurdodaeth (gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i gyfreithiau hawlfraint).

Bydd torri neu gamddefnyddio unrhyw un o'r Telerau hyn yn arwain at derfynu'ch Gwasanaethau ar unwaith.

ADRAN 2 - AMODAU CYFFREDINOL

Rydym yn cadw'r hawl i wrthod gwasanaeth i unrhyw un am unrhyw reswm ar unrhyw adeg.

Rydych yn deall y gall eich cynnwys (heb gynnwys gwybodaeth am gerdyn credyd) gael ei drosglwyddo heb ei amgryptio a chynnwys (a) trosglwyddiadau dros rwydweithiau amrywiol; (b) newidiadau i gydymffurfio ac addasu i ofynion technegol rhwydweithiau neu ddyfeisiau cysylltiol. Mae gwybodaeth am gardiau credyd bob amser yn cael ei hamgryptio wrth drosglwyddo dros rwydweithiau.

Rydych yn cytuno i beidio ag atgynhyrchu, dyblygu, copïo, gwerthu, ailwerthu neu fanteisio ar unrhyw ran o'r Gwasanaeth, defnyddio'r Gwasanaeth neu gael mynediad i'r Gwasanaeth neu unrhyw gyswllt ar y wefan y darperir y Gwasanaeth drwyddo, heb ganiatâd ysgrifenedig penodol gennym ni.

ADRAN 3 - CYWIRDEB, CYFLAWNRWYDD AC AMSEROLDEB GWYBODAETH

Gall y wefan hon gynnwys gwybodaeth hanesyddol benodol. Nid yw gwybodaeth hanesyddol, o reidrwydd, yn gyfredol ac fe'i darperir er mwyn cyfeirio ati yn unig. Rydym yn cadw'r hawl i addasu cynnwys y wefan hon ar unrhyw adeg, ond nid oes rheidrwydd arnom i ddiweddaru unrhyw wybodaeth ar ein gwefan. Rydych yn cytuno mai eich cyfrifoldeb chi yw monitro newidiadau i'n gwefan.

ADRAN 4 - ADDASIADAU I'R GWASANAETH A'R PRISIAU

Gall prisiau ein cynnyrch newid yn ddirybudd.

Rydym yn cadw'r hawl ar unrhyw adeg i addasu neu derfynu'r Gwasanaeth (neu unrhyw ran neu gynnwys ohono) yn ddirybudd ar unrhyw adeg.

Ni fyddwn yn atebol i chi nac i unrhyw drydydd parti am unrhyw addasiad, newid o ran pris, atal neu derfynu'r Gwasanaeth.

ADRAN 5 - CYNHYRCHION NEU WASANAETHAU

Efallai y bydd rhai cynhyrchion neu wasanaethau ar gael ar-lein yn unig trwy'r wefan. Efallai y bydd gan y cynhyrchion neu'r gwasanaethau hyn symiau cyfyngedig ac maent yn ddarostyngedig i gael eu dychwelyd neu eu cyfnewid yn unig yn unol â'n Polisi Cludiant a Dychweliadau.

Rydym wedi gwneud pob ymdrech i arddangos lliwiau a delweddau ein cynhyrchion sy'n ymddangos yn y siop mor gywir â phosibl. Ni allwn warantu y bydd eich dyfais yn dangos unrhyw liw yn gywir.

Nid ydym yn gwarantu y bydd ansawdd unrhyw gynnyrch, gwasanaethau, gwybodaeth neu ddeunydd arall a brynwyd neu a gafwyd gennych yn bodloni eich disgwyliadau.

ADRAN 6 - CYWIRDEB GWYBODAETH FILIO A GWYBODAETH AM GYFRIF

Mae angen cyfrif er mwyn gwneud archeb gyda ni. Defnyddir yr holl wybodaeth a ddarperir i ni yn unol â thelerau ein polisi preifatrwydd. Rhaid trin unrhyw wybodaeth a ddarperir gennym ni sy'n ymwneud â chreu a defnyddio cyfrifon cwsmeriaid gennych chi yn rhan o'n prosesau gweinyddol a'n mesurau diogelwch, yn gyfrinachol.

Rydym yn cadw'r hawl i atal cyfrifon a ddefnyddir, ar sail barn resymol, yn groes i'r telerau gwasanaeth hyn.

Dylid tynnu unrhyw ddefnydd anawdurdodedig o gyfrifon cwsmeriaid i'n sylw cyn gynted â phosibl.

Rydym yn cadw'r hawl i ddiwygio neu wrthod unrhyw archeb a wneir gyda ni pan fo amgylchiadau rhesymol yn caniatáu hyn. Os byddwn yn newid neu ganslo archeb, byddwn yn ceisio eich hysbysu drwy gysylltu â'r e-bost a/neu'r rhif ffôn a ddarparwyd ar yr adeg y gwnaed yr archeb.

Rydym yn cadw'r hawl i gyfyngu neu wahardd archebion y mae’n ymddangos, yn ein barn ni'n unig, eu bod wedi eu gosod gan werthwyr, ailwerthwyr neu ddosbarthwyr.

Rydych yn cytuno i ddarparu gwybodaeth gyfredol a chywir am brynu ac am eich cyfrif ar gyfer pob pryniant a wneir yn ein siop. Rydych yn cytuno i ddiweddaru'ch cyfrif a gwybodaeth arall yn brydlon, gan gynnwys eich cyfeiriad e-bost a rhifau cardiau credyd a dyddiadau dod i ben, fel y gallwn gwblhau eich trafodion a chysylltu â chi yn ôl yr angen.

Am ragor o fanylion, adolygwch ein Polisi Cludiant a Dychweliadau.

ADRAN 7 – OFFER DEWISOL

Efallai y byddwn yn rhoi mynediad i chi i offer trydydd parti nad ydym yn eu monitro neu nad oes gennym unrhyw reolaeth drostynt na mewnbwn iddynt.

Rydych yn cydnabod ac yn cytuno ein bod yn darparu mynediad at offer o'r fath "fel y mae" ac "fel y bo ar gael" heb unrhyw warantau, sylwadau nac amodau o unrhyw fath a heb unrhyw ardystiad. Ni fydd gennym unrhyw atebolrwydd o gwbl sy'n deillio o'ch defnydd o offer trydydd parti dewisol neu sy'n ymwneud â'ch defnydd ohonynt.

Mae unrhyw ddefnydd gennych chi o offer dewisol a gynigir trwy'r wefan ar eich risg a'ch disgresiwn eich hun yn llwyr a dylech sicrhau eich bod yn gyfarwydd â thelerau ar gyfer offer gan y darparwyr trydydd parti perthnasol a’ch bod yn eu cymeradwyo.

Efallai y byddwn hefyd, yn y dyfodol, yn cynnig gwasanaethau a/neu nodweddion newydd drwy'r wefan (gan gynnwys, rhyddhau offer ac adnoddau newydd). Bydd nodweddion a/neu wasanaethau newydd o'r fath hefyd yn ddarostyngedig i'r Telerau Gwasanaeth hyn.

ADRAN 8 - DOLENNI TRYDYDD PARTÏON

Gall cynnwys, cynhyrchion a gwasanaethau penodol sydd ar gael trwy ein Gwasanaeth gynnwys deunyddiau gan drydydd partïon.

Gall dolenni trydydd parti ar y wefan hon eich cyfeirio at wefannau trydydd parti nad ydynt yn gysylltiedig â ni. Nid ydym yn gyfrifol am archwilio na gwerthuso'r cynnwys na'r cywirdeb ac nid ydym yn gwarantu ac ni fydd gennym unrhyw atebolrwydd na chyfrifoldeb am unrhyw ddeunyddiau na gwefannau trydydd parti, nac am unrhyw ddeunyddiau, cynhyrchion na gwasanaethau trydydd parti eraill.

Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw niwed nac iawndal sy'n gysylltiedig â phrynu neu ddefnyddio nwyddau, gwasanaethau, adnoddau, cynnwys, neu unrhyw drafodion eraill a wneir mewn cysylltiad ag unrhyw wefannau trydydd parti. Adolygwch bolisïau ac arferion y trydydd parti yn ofalus a gwnewch yn siŵr eich bod yn eu deall cyn i chi gymryd rhan mewn unrhyw bryniant. Dylid cyfeirio cwynion, hawliadau, pryderon, neu gwestiynau ynghylch cynhyrchion trydydd parti, at y trydydd parti.

ADRAN 9 – GWYBODAETH BERSONOL

Llywodraethir y wybodaeth bersonol a gyflwynwch trwy'r siop gan ein polisi preifatrwydd.

ADRAN 10 - CAMGYMERIADAU, GWALLAU A HEPGORIADAU

O bryd i'w gilydd efallai y bydd gwybodaeth ar ein gwefan neu yn y Gwasanaeth sy'n cynnwys gwallau argraffyddol, anghywirdebau neu hepgoriadau a allai ymwneud â disgrifiadau cynnyrch, prisio, hyrwyddiadau, cynigion, taliadau cludo cynnyrch, amseroedd cludo ac argaeledd. Rydym yn cadw'r hawl i gywiro unrhyw wallau, anghywirdebau neu hepgoriadau, ac i newid neu ddiweddaru gwybodaeth neu ganslo archebion os oes unrhyw wybodaeth yn y Gwasanaeth neu ar unrhyw wefan gysylltiedig yn anghywir ar unrhyw adeg heb rybudd ymlaen llaw (gan gynnwys ar ôl i chi gyflwyno eich archeb).

Bydd unrhyw newidiadau i archebion, oherwydd amgylchiadau fel y rhestrir uchod, yn cael eu cyfleu i chi drwy ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost a/neu rif ffôn a ddarperir gennych chi.

ADRAN 11 - DEFNYDDIAU GWAHARDDEDIG

Yn ogystal â gwaharddiadau eraill fel y nodir yn y Telerau Gwasanaeth, fe'ch gwaherddir rhag defnyddio'r wefan neu ei gynnwys:

(a) at unrhyw ddiben anghyfreithlon; (b) i annog eraill i berfformio neu gymryd rhan mewn unrhyw weithredoedd anghyfreithlon; (c) i dorri neu droseddu yn erbyn unrhyw reoliadau, rheolau neu reolau rhyngwladol, ffederal, taleithiol neu wladwriaethol; (ch) i dorri neu droseddu ein hawliau eiddo deallusol neu hawliau eiddo deallusol eraill; (d) aflonyddu, cam-drin, sarhau, niweidio, difrïo, athrod, gwahaniaethu, dychryn, neu wahaniaethu ar sail rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd, ethnigrwydd, hil, oedran, tarddiad cenedlaethol, neu anabledd; (dd) i gyflwyno gwybodaeth ffug neu gamarweiniol; (e) i lanlwytho neu drosglwyddo firysau neu unrhyw fath arall o god maleisus a fydd neu y gellir ei ddefnyddio mewn unrhyw ffordd a fydd yn effeithio ar ymarferoldeb neu weithrediad y Gwasanaeth neu unrhyw wefan gysylltiedig, gwefannau eraill, neu'r Rhyngrwyd; (f) i gasglu neu olrhain gwybodaeth bersonol pobl eraill; (ff) i sbamio, gwe-rwydo, gwe-gorlannu, gwneud ymosodiad corryn, cropian, neu grafu; (g) at unrhyw bwrpas anweddus neu anfoesol; neu (ng) i ymyrryd â nodweddion diogelwch y Gwasanaeth neu unrhyw wefan gysylltiedig, gwefannau eraill neu'r Rhyngrwyd. Rydym yn cadw'r hawl i derfynu eich defnydd o'r Gwasanaeth neu unrhyw wefan gysylltiedig am dorri unrhyw un o'r defnyddiau gwaharddedig.

ADRAN 13 - YMWADIAD GWARANTAU; CYFYNGU AR ATEBOLRWYDD

Nid ydym yn gwarantu y bydd y canlyniadau y gellir eu cael o ddefnyddio'r gwasanaeth yn gywir nac yn ddibynadwy.

Rydych yn cytuno, o bryd i'w gilydd, y gallwn ddileu'r gwasanaeth am gyfnodau amhenodol neu ganslo'r gwasanaeth ar unrhyw adeg, heb rybudd i chi.

Rydych yn cytuno'n benodol ar eich defnydd o’r gwasanaeth, neu anallu i ddefnyddio'r gwasanaeth, ar eich menter eich hun. Mae'r Gwasanaeth a'r holl gynhyrchion a gwasanaethau a ddarperir i chi drwy'r Gwasanaeth (ac eithrio fel y nodir yn benodol gennym ni) yn cael eu darparu 'fel y mae' ac 'fel sydd ar gael' at eich defnydd chi, heb unrhyw sylwadau, gwarantau, neu amodau o unrhyw fath, naill ai'n benodol neu'n ymhlyg, gan gynnwys yr holl warantau neu amodau ymhlyg o ran masnachadwyedd, ansawdd masnachadwy, addasrwydd at ddiben penodol, gwydnwch, teitl a sicrhau nad oes rheolau wedi eu torri.

Ni fydd Peniarth, ein cyfarwyddwyr na'n swyddogion, mewn unrhyw achos, yn atebol am unrhyw anaf, colled, hawliad, neu unrhyw ddifrod uniongyrchol, anuniongyrchol, achlysurol, cosb, arbennig neu ganlyniadol o unrhyw fath, gan gynnwys, heb gyfyngiad, elw coll, colli refeniw, colli cynilion, colli data, costau cyfnewid, neu unrhyw iawndal tebyg, boed hynny’n seiliedig mewn contract, camwedd (gan gynnwys esgeulustod), atebolrwydd caeth neu fel arall, sy'n deillio o'ch defnydd o unrhyw un o'r Gwasanaeth neu unrhyw gynhyrchion a geir drwy ddefnyddio'r Gwasanaeth, neu ar gyfer unrhyw hawliad arall sy'n gysylltiedig mewn unrhyw ffordd â'ch defnydd o'r Gwasanaeth neu unrhyw gynnyrch, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r rhain, unrhyw wallau neu hepgoriadau mewn unrhyw gynnwys, neu unrhyw golled neu ddifrod o unrhyw fath a achosir o ganlyniad i ddefnyddio'r Gwasanaeth neu unrhyw gynnwys (neu gynnyrch) a bostir, a drosglwyddir, neu sydd ar gael fel arall drwy'r gwasanaeth, hyd yn oed os rhoddir gwybod am eu posibilrwydd.

Oherwydd nad yw rhai taleithiau neu awdurdodaethau yn caniatáu eithrio na chyfyngu atebolrwydd am iawndal canlyniadol neu achlysurol, yn y taleithiau neu’r awdurdodaethau hyn, bydd ein hatebolrwydd yn gyfyngedig i'r graddau mwyaf a ganiateir gan y gyfraith.

ADRAN 14 - INDEMNIO

Rydych yn cytuno i indemnio, amddiffyn a dal Peniarth yn ddiniwed a'n rhiant-gwmni, is-gwmnïau, cwmnïau cysylltiedig, partneriaid, swyddogion, cyfarwyddwyr, asiantau, contractwyr, trwyddedwyr, darparwyr gwasanaethau, isgontractwyr, cyflenwyr, interniaid a gweithwyr, yn ddi-euog rhag unrhyw hawliad neu alw, gan gynnwys ffioedd atwrneiod rhesymol, a wneir gan unrhyw drydydd parti oherwydd neu sy'n deillio o dorri'r Telerau Gwasanaeth hyn gennych neu'r dogfennau y maent yn eu hymgorffori drwy gyfeirio atynt, neu dorri unrhyw gyfraith neu hawliau trydydd parti gennych.

ADRAN 15 - TORRI

Os penderfynir bod unrhyw ddarpariaeth yn y Telerau Gwasanaeth hyn yn anghyfreithlon, yn ddi-rym neu'n anorfodadwy, bydd darpariaeth o'r fath yn dal i fod yn orfodadwy i'r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith berthnasol, a bernir bod y gyfran anorfodadwy wedi'i thorri o'r Telerau Gwasanaeth hyn, ni fydd penderfyniad o'r fath yn effeithio ar ddilysrwydd a gorfodadwyedd unrhyw ddarpariaethau eraill sy'n weddill.

ADRAN 16 - TERFYNU

Bydd rhwymedigaethau ac atebolrwydd partïon cyn y dyddiad terfynu yn goroesi terfynu'r cytundeb hwn i bob pwrpas.

Mae'r Telerau Gwasanaeth hyn yn effeithiol oni bai a hyd nes y’u terfynir gennych chi neu ni. Gallwch derfynu'r Telerau Gwasanaeth hyn ar unrhyw adeg trwy ein hysbysu nad ydych am ddefnyddio ein gwefan mwyach, neu pan fyddwch yn peidio â defnyddio ein gwefan.

Os byddwch yn methu, yn ein barn ein hunain, neu os ydym yn amau eich bod wedi methu, â chydymffurfio ag unrhyw delerau neu ddarpariaeth yn y Telerau Gwasanaeth hyn, gallwn hefyd derfynu'r Cytundeb hwn ar unrhyw adeg yn ddirybudd a byddwch yn parhau i fod yn atebol am bob swm sy'n ddyledus hyd at y dyddiad terfynu ac yn cynnwys y dyddiad terfynu; a/neu'n unol â hynny gallwn wrthod mynediad i chi i'n Gwasanaethau (neu unrhyw ran ohonynt).

ADRAN 17 – Y CYTUNDEB CYFAN

Ni fydd methu ag arfer neu orfodi unrhyw hawl neu ddarpariaeth yn y Telerau Gwasanaeth hyn yn gyfystyr ag ildio hawl neu ddarpariaeth o'r fath.

Mae'r Telerau Gwasanaeth hyn ac unrhyw bolisïau neu reolau gweithredu a bostiwyd gennym ni ar y wefan hon neu mewn perthynas â'r Gwasanaeth yn ffurfio'r cytundeb a'r ddealltwriaeth gyfan rhyngoch chi a ni ac yn llywodraethu eich defnydd o'r Gwasanaeth, gan ddisodli unrhyw gytundebau blaenorol, cyfathrebiadau a chynigion cyfoes, boed ar lafar neu'n ysgrifenedig, rhyngoch chi a ni (gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r rhain, unrhyw fersiynau blaenorol o'r Telerau Gwasanaeth).

Ni ddehonglir unrhyw amwysedd wrth ddehongli'r Telerau Gwasanaeth hyn yn erbyn y parti drafftio.

ADRAN 18 - CYFRAITH LYWODRAETHOL

Bydd y Telerau Gwasanaeth hyn ac unrhyw gytundebau ar wahân yr ydym yn eu darparu i chi yn cael eu llywodraethu a'u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr.

ADRAN 19 - NEWIDIADAU I DELERAU GWASANAETH

Gallwch adolygu'r fersiwn fwyaf cyfredol o'r Telerau Gwasanaeth ar unrhyw adeg ar y dudalen hon.

Rydym yn cadw'r hawl, yn ôl ein disgresiwn llwyr, i ddiweddaru, newid neu amnewid unrhyw ran o'r Telerau Gwasanaeth hyn trwy bostio diweddariadau a newidiadau i'n gwefan. Eich cyfrifoldeb chi yw gwirio ein gwefan o bryd i'w gilydd am newidiadau. Mae eich defnydd parhaus o'n gwefan neu fynediad i'n gwefan neu'r Gwasanaeth ar ôl postio unrhyw newidiadau i'r Telerau Gwasanaeth hyn yn golygu derbyn y newidiadau hynny.

ADRAN 20 - GWYBODAETH GYSWLLT

Dylid anfon cwestiynau am y Telerau Gwasanaeth atom ar post@peniarth.cymru.