Y Polisi Cwcis a GDPR

SUT RYDYM YN DEFNYDDIO CWCIS

Fel llawer o wefannau, rydym yn defnyddio cwcis am amrywiaeth o resymau, gan gynnwys cadw ac yna adfer darnau bach o wybodaeth ar eich cyfrifiadur pan fyddwch yn ymweld â ni. Mae rhai cwcis yn hanfodol er mwyn i’r wefan weithio’n iawn a gallwch optio allan o rai neu eu hatal.

Rydym yn defnyddio cwcis i:

  • wneud i’r wefan weithio fel y byddech yn ei ddisgwyl
  • cofio eich dewisiadau yn ystod a rhwng ymweliadau
  • caniatáu i chi rannu tudalennau gyda rhwydweithiau cymdeithasol fel Facebook
  • casglu data anhysbys sy’n helpu’r Brifysgol i wella’r wefan
  • amlygu gwybodaeth berthnasol i chi trwy ein gweithgareddau marchnata ar-lein.

Caiff peth o’r wybodaeth a gedwir ei rhoi yno gan gwmnïau eraill sydd â'u  meddalwedd ar y safle, a gall hyn hefyd effeithio ar eich profiad o wefannau eraill y gallech ymweld â nhw ar ôl gadael ein gwefan ni.

SUT I OPTIO ALLAN O GWCIS NEU EU HATAL

Gallwch gyfyngu ar gwcis neu eu hatal trwy addasu gosodiadau eich porwr. Fodd bynnag, gallai hynny gyfyngu ar eich defnydd o'n gwefan. Edrychwch ar ganllaw cymorth eich porwr i weld sut i wneud hyn. Mae gwefannau fel www.allaboutcookies.org yn darparu gwybodaeth bellach ar sut i optio allan o gwcis neu eu hatal.

Isod, ceir rhestr o wahanol fathau o gwcis a ddefnyddir ar y wefan hon, ac esboniad o’u defnydd. Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy post@peniarth.cymru.

CWCIS SY’N GWBL ANGENRHEIDIOL

Mae’r cwcis hyn yn angenrheidiol er mwyn i’r wefan weithio. Fel arfer, dim ond mewn ymateb i bethau a wnewch chi, sef cais am wasanaethau, y cânt eu gosod, er enghraifft pan fyddwch yn mewngofnodi neu'n llenwi ffurflenni.

Gallwch osod eich porwr i atal y cwcis hyn neu eich hysbysu amdanynt, ond wedyn ni fydd rhai rhannau o’r safle’n gweithio.

CWCIS PERFFORMIO

Mae’r cwcis hyn yn caniatáu i ni gyfrif ymweliadau a ffynonellau traffig fel y gallwn fesur a gwella perfformiad ein safle. Maent yn ein helpu i wybod pa dudalennau yw’r rhai mwyaf a lleiaf poblogaidd a gweld faint o ymwelwyr sy’n symud o gwmpas y safle.

Mae’r holl wybodaeth a gesglir gan y cwcis hyn yn cael ei chronni. Os na wnewch chi ganiatáu’r cwcis hyn ni fyddwn yn gwybod pryd rydych wedi ymweld â’n safle ac ni fyddwn yn gallu monitro ei berfformiad.

CWCIS YMARFEROLDEB

Mae’r cwcis hyn yn galluogi’r wefan i fod yn haws i'w defnyddio a chael ei phersonoleiddio. Efallai y cânt eu pennu gennym ni neu ddarparwyr trydydd parti rydym wedi ychwanegu eu gwasanaethau at ein tudalennau.

Os na fyddwch yn caniatáu’r cwcis hyn, efallai na fydd rhai o’r gwasanaethau hyn, neu’r holl wasanaethau, yn gweithio’n iawn.

CWCIS TARGEDU

Gellir gosod y cwcis hyn trwy ein gwefan gan ein partneriaid hysbysebu. Efallai y cânt eu defnyddio gan y cwmnïau hynny i adeiladu proffil o’ch diddordebau a dangos hysbysebion perthnasol i chi ar safleoedd eraill.

Nid ydynt yn storio gwybodaeth sy’n eich adnabod yn bersonol ond cânt eu seilio ar adnabod eich porwr a’ch dyfais rhyngrwyd. Os nad ydych yn caniatáu’r cwcis hyn, byddwch yn gweld hysbysebion llai penodol.

CWCIS ERAILL

Caiff y cwcis a ganlyn eu gosod gan ein safle hefyd; fodd bynnag, nid yw eu pwrpas wedi’i nodi eto. Rydym yn cynnal ymchwil i’r cwcis hyn a byddwn yn diweddaru’r dudalen hon cyn gynted â phosibl.