Polisi cludiant

DOSBARTHU O FEWN Y DEYRNAS UNEDIG

Mae archebion a osodir ar siop ar-lein Peniarth yn cael eu prosesu o fewn 5 diwrnod gwaith. Rydym yn anfon archebion ar ddyddiau Mawrth, trwy'r Post Brenhinol (Dosbarth Cyntaf) a Parcelforce 24 awr. Rydym yn anelu at ddosbarthu archebion o fewn 5 diwrnod gwaith, ond fe all archebion gymryd hyd at 10 diwrnod gwaith i gyrraedd cwsmer o’r dyddiad y gwneir yr archeb. Os bydd cynnyrch allan o stoc, gallai hyn gymryd yn hirach. Hysbysebir cwsmeriaid o unrhyw broblem mewn perthynas â stoc.

COSTAU CLUDIANT

Mae ein costau cludiant fel a ganlyn:

  • Ar gyfer archebion sy’n llai nag £25: £3
  • Ar gyfer archebion sy’n fwy na £25, ond yn llai na £100, mae cludiant yn £5
  • Mae cludiant am ddim ar gyfer archebion sydd yn fwy na £100

DOSBARTHU’N RHYNGWLADOL

Rydym yn falch o allu cynnig dosbarthu i wledydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig. Os hoffech brynu oddi wrthym, ac mae’r cyfeiriad dosbarthu ar gyfer y cwsmer yn gyfeiriad y tu allan i’r Deyrnas Unedig, gofynnwn i chi gysylltu â post@peniarth.cymru er mwyn trafod manylion a chostau'r cludiant, ac fe wnawn ni osod yr archeb ar eich rhan.