Polisi preifatrwydd

Mae'r Polisi Preifatrwydd hwn yn disgrifio sut y caiff eich gwybodaeth bersonol ei chasglu, ei defnyddio a'i rhannu pan fyddwch yn ymweld â'r safle, yn creu cyfrif, neu'n prynu yn ein siop ar-lein, https://siop.peniarth.cymru.

SHOPIFY

Cynhelir https://siop.peniarth.cymru (y cyfeirir ati yma fel "y safle") gan Shopify Inc. sef eu platfform e-fasnach sy'n ein galluogi i werthu ein cynnyrch a'n gwasanaethau. Yn ogystal, Taliadau Shopify yw'r porth talu a ddefnyddir gan y safle.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Nhelerau Gwasanaethau Shopify (https://www.shopify.com/legal/terms) neu yn y Datganiad Preifatrwydd (https://www.shopify.com/legal/privacy/customers).

GWYBODAETH BERSONOL RYDYM YN EI CHASGLU

Pan fyddwch yn ymweld â'n gwefan, rydym yn casglu gwybodaeth benodol am eich dyfais yn awtomatig, gan gynnwys gwybodaeth am y ddyfais a'r porwr rydych yn eu defnyddio, eich cysylltiad rhwydwaith a'ch cyfeiriad IP. Yn ogystal, wrth i chi bori trwy'r wefan, rydym yn casglu gwybodaeth am y tudalennau neu'r cynnyrch unigol rydych chi'n eu gweld, pa wefannau neu dermau chwilio a wnaeth eich cyfeirio i'r wefan, a gwybodaeth am sut rydych yn rhyngweithio â'r wefan. Rydym yn cyfeirio at y wybodaeth hon a gesglir yn awtomatig fel "Gwybodaeth am Ddyfais."

Rydym yn casglu gwybodaeth am ddyfeisiau gan ddefnyddio'r technolegau canlynol:

  • Mae "cwcis" yn ffeiliau data sy'n cael eu gosod ar eich dyfais neu'ch cyfrifiadur ac yn aml maent yn cynnwys dynodwr unigryw anhysbys. I ddysgu rhagor am gwcis, a sut i analluogi cwcis, ewch i https://www.allaboutcookies.org.
  • Gweithredoedd olrhain "ffeiliau log" sy'n digwydd ar y wefan, ac sy’n casglu data gan gynnwys eich cyfeiriad IP, math o borwr, darparwr gwasanaeth rhyngrwyd, tudalennau cyfeirio/ymadael, a stampiau dyddiad/amser.
  • Mae "ffaglau gwe," "tagiau," a "phicseli" yn ffeiliau electronig a ddefnyddir i gofnodi gwybodaeth am sut rydych yn pori'r wefan.

Yn ogystal, pan fyddwch chi'n prynu neu'n ceisio prynu trwy'r wefan, rydym yn casglu gwybodaeth benodol gennych, gan gynnwys eich enw, cyfeiriad bilio, cyfeiriad cludiant, gwybodaeth dalu (gan gynnwys rhifau cerdyn credyd), cyfeiriad e-bost, a rhif ffôn. Rydym yn cyfeirio at y wybodaeth hon fel "Gwybodaeth Archebu."

Pan fyddwn yn cyfeirio at "Wybodaeth Bersonol" yn y Polisi Preifatrwydd hwn, rydym yn cyfeirio at Wybodaeth am Ddyfeisiau a Gwybodaeth Archebu.

Gall defnyddwyr wrthod defnyddio cwcis, trwy neges-naid i’w hatgoffa, a fydd yn atal olrhain ymddygiad wrth bori. Fodd bynnag, bydd creu cyfrif yn gofyn am ddefnyddio cwcis penodol, gan fod y broses wirio yn gofyn am hyn.

SUT RYDYM YN DEFNYDDIO EICH GWYBODAETH BERSONOL?

Wrth greu cyfrif ar y wefan ac wrth osod archeb, rhennir gwybodaeth bersonol â ni. Rydym yn awgrymu eich bod yn cydsynio i ddefnyddio'r wybodaeth hon am resymau penodol, megis prosesu eich gwybodaeth dalu, trefnu cludiant, a darparu anfonebau a/neu gadarnhau eich archebion. Rydym hefyd yn defnyddio'r wybodaeth hon i wneud y canlynol:

  • Cyfathrebu â chi ynglŷn â'r archeb, neu ei dychwelyd;
  • Sgrinio ar gyfer risg neu dwyll posibl; ac
  • Yn unol â'r dewisiadau rydych wedi'u rhannu â ni, byddwn yn rhoi gwybodaeth neu ddeunydd marchnata i chi sy'n ymwneud â'n cynhyrchion neu ein gwasanaethau.

O ran marchnata gwybodaeth a hysbysebu, byddwn yn gofyn am eich caniatâd penodol i dderbyn gwybodaeth farchnata.

Ar ôl creu cyfrif, prosesu archebion, neu optio i mewn i farchnata, gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl i ni ddefnyddio'r wybodaeth a ddarparwyd gennych i ni.

I wneud hynny, cysylltwch â post@peniarth.cymru neu Peniarth, Prifysgol y Drindod Dewi Sant, Campws Caerfyrddin, Heol y Coleg, Caerfyrddin, Cymru, SA31 3EP.

Efallai y byddwn yn datgelu eich gwybodaeth bersonol os yw'n ofynnol yn ôl y gyfraith i ni wneud hynny neu os byddwch yn torri ein Telerau Gwasanaeth.

GWASANAETHAU TRYDYDD PARTI

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu â nifer fach o drydydd partïon, ond dim ond i'r graddau y mae'n ei gwneud yn ofynnol iddynt gyflawni'r gwasanaethau y maent yn eu darparu i ni. Er enghraifft, darperir gwybodaeth am enw, e-bost a chyfeiriadau i gyflenwyr megis y Post Brenhinol a Parcelforce. Ni chaiff unrhyw wybodaeth arall, y tu hwnt i'r hyn sy'n angenrheidiol, ei rhannu â thrydydd partïon.

Bydd gan bob darparwr ei bolisi preifatrwydd unigol ei hun, os hoffech ddysgu mwy am sut mae'ch gwybodaeth yn cael ei defnyddio ganddynt.

Rydym hefyd yn defnyddio Plausible Analytics i'n helpu i ddeall sut mae ein cwsmeriaid yn defnyddio'r wefan heb effeithio ar eu preifatrwydd. Gallwch ddarllen rhagor am sut mae Plausible Analytics yn defnyddio'ch gwybodaeth yma: https://plausible.io/data-policy

PEIDIO AG OLRHAIN

Sylwer nad ydym yn newid arferion casglu a defnyddio data ein safle pan welwn signal Peidio ag Olrhain o'ch porwr.

CADW DATA

Pan fyddwch yn archebu drwy'r wefan, byddwn yn cadw eich Gwybodaeth Archebu ar gyfer ein cofnodion oni bai a hyd nes y byddwch yn gofyn i ni ddileu'r wybodaeth honno.

Er bod croeso i bawb fynd i’r safle, nid yw'r defnydd o wasanaethau'r safle - hynny yw, creu cyfrifon a phrynu nwyddau a gwasanaethau - wedi'i fwriadu ar gyfer unigolion o dan 18 oed.

NEWIDIADAU YN Y POLISI HWN

Efallai y byddwn yn addasu'r polisi preifatrwydd hwn o bryd i'w gilydd i adlewyrchu newidiadau i'n harferion neu am resymau gweithredol, cyfreithiol neu reoleiddiol eraill. Bydd newidiadau’n weithredol yn syth ar ôl postio'r polisi diwygedig.

Amlygir unrhyw newidiadau sylweddol i'r ffordd y caiff gwybodaeth ei defnyddio neu ei chadw. Mater i ddefnyddwyr y wefan yw adolygu'r polisi ar gyfer newidiadau.

CYSYLLTWCH Â NI

I gael rhagor o wybodaeth am ein harferion preifatrwydd, os bydd gennych gwestiynau, neu os hoffech gwyno, cysylltwch â ni drwy e-bost ar  post@peniarth.cymru neu drwy'r post gan ddefnyddio'r manylion isod:

Peniarth, Y Drindod Dewi Sant, Campws Caerfyrddin, Heol y Coleg, Caerfyrddin, Cymru, SA31 3EP.