Polisi ad-dalu
Mae gan gwsmeriaid yr hawl i ganslo archeb. Os na fydd yr archeb wedi’i dosbarthu, fe wnawn ni ganslo’r archeb a darparu ad-daliad, pan fydd taliad wedi digwydd wrth brynu.
Os yw’r archeb wedi’i dosbarthu, mae gan gwsmeriaid yr hawl i ddychwelyd yr eitem(au) o fewn 14 diwrnod o dderbyn yr eitem(au).
Gallwch wneud cais ar gyfer dychwelyd eitem(au) trwy anfon ebost i ni ar post@peniarth.cymru. Unwaith y derbynnir ac y cytunir ar gais i ddychwelyd, bydd gan gwsmeriaid 14 diwrnod i ddychwelyd yr eitemau atom ni. Byddwn yn prosesu ad-daliad i’r cwsmer o fewn 14 diwrnod i ni dderbyn yr eitem, ar yr amod fod yr eitem wedi ei dychwelyd yn ei chyflwr gwreiddiol.
Costau dychwelyd: lle nad yw cynnyrch yn cyrraedd cwsmeriaid mewn cyflwr derbyniol, neu os oes yna le i ddadlau nad oedd yr eitem fel yr hyn a ddisgrifiwyd, yna byddwn yn talu am ddychwelyd yr eitemau. Os bydd cwsmer yn newid ei feddwl am eitem(au), bydd dal modd dychwelyd yr eitem(au) o fewn y cyfnod 14 diwrnod; ond, bydd disgwyl i’r cwsmer dalu costau cludiant ar gyfer dychwelyd yr eitem(au).
Er mwyn osgoi unrhyw broblemau a allai godi wrth ddychwelyd eitem, awgrymir bod cwsmeriaid yn cysylltu â ni er mwyn trefnu bod yr eitem yn cael ei chludo drwy wasanaeth olrhain a chadarnhau dosbarthu’r Post Brenhinol. Ni fyddwn yn trefnu ad-daliad i’r cwsmer os na fyddwn:
- yn derbyn yr eitem ddychwelyd, neu
- yn derbyn prawf fod y cwsmer wedi ceisio dychwelyd eitem atom ni
Nid yw hyn yn effeithio ar eich hawliau statudol.
