Amdanom Ni

Peniarth yw un o brif gyhoeddwyr llyfrau ac adnoddau addysg Cymraeg a dwyieithog yng Nghymru.

Rydym yn rhan o Brifysgol Cymru Drindod Dewi Sant, ac wedi cyhoeddi dros 300 o deitlau print ar ffurf llyfrau plant ac adnoddau addysg, yn ogystal â thros 50 o adnoddau digidol, adnoddau gwe a rhyngweithiol ac apiau ers ein sefydlu yn 2009.

Ein Cenhadaeth

Trawsnewid Addysg; Trawsnewid Bywydau

Rydym wedi ein lleoli o fewn Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, sef sefydliad sydd â hanes hir a llwyddiannus fel un o brif ganolfannau hyfforddi athrawon, ac rydym yn rhannu’r un weledigaeth â’r Brifysgol, sef trawsnewid addysg a thrawsnewid bywydau. Mae’r dysgwr yn ganolog i’n gwaith o ddydd i ddydd wrth gynllunio, datblygu, dylunio, a chyhoeddi.

Ein Gweledigaeth

Fel un o brif gyhoeddwyr llyfrau ac adnoddau addysgol yng Nghymru, ein nod yw cynhyrchu a darparu adnoddau a gwasanaethau dwyieithog arloesol ar gyfer y sector addysg a fydd yn gallu ysbrydoli’r dysgwr i ffynnu ar bob cam, a sicrhau dyfodol llwyddiannus a chyffrous.

Yn ganolog i’n cynllun busnes, mae meithrin a datblygu perthynas a chysylltiadau o fewn amryw rwydweithiau o rhanddeiliaid ar draws Cymru a thu hwnt, er mwyn sicrhau bod ein cynnyrch a’n gwasanaethau’n diwallu anghenion, ac yn cyfrannu at helpu plant a phobl ifanc i fod yn;

  • uchelgeisiol a galluog
  • cyfranwyr mentrus a chreadigol
  • dinasyddion egwyddorol a gwybodus yng Nghymru a’r byd
  • unigolion iach a hyderus.

Ail Frandio

Yn nhymor yr Hydref 2019, dathlodd Peniarth deg mlynedd ers ei sefydlu. Fel rhan o'n dathliadau’n pen-blwydd, ailfrandiwyd y ganolfan.

Beth yw’r logo newydd?

Hebog. Aderyn a welir mewn llun nodedig o fewn un o lawysgrifau Peniarth.

Pam, sut a ble?

Mae’r ganolfan wedi ei henwi ar ôl llawysgrifau Peniarth, sef casgliad o lawysgrifau Cymreig canoloesol. Mae’r casgliad yn cynnwys rhai o’r llawysgrifau hynaf a phwysicaf yn hanes llenyddiaeth Gymraeg, gan gynnwys Llyfr Du Caerfyrddin a gafodd ei ysgrifennu yma yn nhref Caerfyrddin lle rydym wedi ein lleoli.

Hefyd yn rhan o’r llawysgrifau, mae testunau cynnar o Gyfraith Hywel Dda, sef hen gyfreithiau Cymreig a gafodd eu diweddaru gan Hywel Dda yn dilyn cyfarfod o gyfreithwyr a chlerigwyr o bob rhan o Gymru yn nhref Hendy-gwyn ar Daf yma yn Sir Gâr. Un o lyfrau Cyfraith Hywel Dda yw Llawysgrif Peniarth 28, ac yn hwn, ceir llun o’r hebogydd yn dal yr hebog sydd wedi’n hysbrydoli.

A dyma ni, ganrifoedd lawer yn ddiweddarach, yn mabwysiadu’r hebog i’n cynrychioli ni fel Peniarth. Dyma aderyn sy’n symbol o weledigaeth, rhyddid a buddugoliaeth, ac rydym wedi ymroi’n llwyr i ddarparu cynnyrch a gwasanaethau a fydd yn darparu gweledigaeth a rhyddid i’r dysgwr ffynnu a llwyddo ar hyd ei fywyd.