Serennu wrth 'sgrifennu - Pecyn Digidol i Athrawon

SKUSWS-DIGI
ISBN9781783906055
Pwysau0g
Pris rheolaidd £10.00
Pris rheolaidd £10.00 Pris arbennig £10.00
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.

Cyhoeddwyd adnodd Serennu wrth sgrifennu yn wreiddiol yn 2014 gyda nawdd Llywodraeth Cymru. Dyma addasiad digidol o’r adnodd gydag ychwanegiadau a fydd o ddefnydd i athrawon wrth ddysgu 

Mae Serennu wrth sgrifennu yn arwain y dysgwyr i feddwl am; 

  • anghenion y darllenwyr 

  • strwythur a threfn y gwaith 

  • y math o iaith sydd angen ei defnyddio ar gyfer gwahanol fathau o ysgrifennu 

  • nodweddion ystod o wahanol ffurfiau gan gynnwys adroddiad, dyddiadur, poster a llythyr. 

  • y meini prawf llwyddiant 

 

Mae’r pecyn hefyd yn cynnwys enghreifftiau o’r ffurfiau a gyflwynir. Mae rhain wedi eu hanodi er mwyn tynnu sylw at y prif nodweddion. Yn y fersiwn Bwrdd Gwyn Rhyngweithiol mae modd i chi ddangos, neu guddio’r prif nodweddion yma. Yn ogystal rydym wedi cynnwys fersiwn argraffadwy o enghreifftiau o’r ffurfiau er mwyn i'r dysgwyr anodi’n annibynnol. 

Mae’r pecyn yn cynnwys; 

  • Adnodd Serennu wrth sgrifennu ar ffurf PDF fel yr adnodd gwreiddiol 

  • Fersiwn o’r adnodd wedi’i addasu ar gyfer bwrdd gwyn rhyngweithiol  

  • Fersiwn argraffadwy o enghreifftiau o’r ffurfiau heb eu hanodi. 

 

Yn dilyn eich archeb byddwch yn derbyn ebost yn cynnwys y lawrlwythiadau digidol a  bydd angen i chi lawrlwytho’r dogfennau i'ch cyfrifiadur. I ddefnyddio'r rhyngwyneb rhyngweithiol ar y fersiwn Bwrdd Gwyn Rhyngweithiol bydd angen defnyddio un o'r porwyr canlynol; Acrobat Reader, Google Chrome a Microsoft Edge. 

Gellir defnyddio ac atgynhyrchu'r deunydd hwn oddi mewn i ysgol y prynwr yn unig.