Anifeiliaid Anwes

SKUAAYDAA
ISBN9781783902170
Pwysau160g
Pris rheolaidd £3.99
Pris rheolaidd £3.99 Pris arbennig £3.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.
Chwilio am lyfr i gyd-fynd gyda Diwrnod Anifeiliaid Anwes Cenedlaethol ar y 11eg o Ebrill neu Diwrnod Anifeiliaid y Byd ar y 4ydd o Hydref? Dewch i ddysgu am anifeiliaid amrywiol gyda Phrosiect Ymchwil Roco! Cyfle i ddysgu ffeithiau unigryw, dysgu sut i ofalu am anifeiliaid penodol, a chyfle i ddatblygu sgiliau rhifedd y dysgwyr. Cliciwch yma i ymweld â'n gwefan Digwyddiadur sy'n cynnwys llu o ddigwyddiadau cenedlaethol a byd-eang sy'n digwydd yn ystod y flwyddyn a syniadau am lyfrau ac adnoddau sydd gyda ni i gyd-fynd gyda'r thema i gyfoethogi'r dysgu.

Mae 'Anifeiliaid Anwes' yn rhan o gyfres Archwlio'r Amgylchedd yn y dref: Cyfres 2. Cyfresi sy'n dilyn anturiaethau Betsan a Roco wrth iddyn nhw archwilio'r dref yw'r rhain. Mae Cyfres 2 yn cynnwys 8 stori neu gerdd gwreiddiol i blant ar Gam Cynnydd 2. Eu nod yw cefnogi gwahanol feysydd dysgu a phrofiad gan ganolbwyntio ar archwilio a darganfod yn yr awyr agored.

Mae'r llyfrau'n cynnig cyfle i godi chwilfrydedd y plant ynghylch eu hamgylchedd yn ogystal â'u hannog i fwynhau drwy archwilio, ymholi, arbrofi, gofyn cwestiynau a cheisio dod o hyd i atebion. Cyfres yw hon sy'n datblygu cyfleoedd i'r plant ddarllen a mynegi eu syniadau, eu safbwyntiau a'u teimladau gan ddangos dychymyg, creadigrwydd a sensitifrwydd tuag at eu hamgylchedd. Os prynwch chi’r gyfres gyflawn, cewch 6 cerdyn her ar gyfer pob llyfr sy'n cynnwys heriau amrywiol y gallech eu defnyddio er mwyn cefnogi'r dysgu ymhellach, gan ddarparu cyfle i ddysgwyr i atgyfnerthu’r sgiliau maent wedi dysgu.