Brethyn Cymru - Poster

Pris rheolaidd £9.99
Pris rheolaidd £9.99 Pris arbennig £9.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.
Math

Fel rhan o brosiect cyffrous a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, mae copïau o boster Brethyn Cymru ar gael ym mhob ysgol yng Nghymru.

Mae’r adnodd trawsbynciol arloesol hwn a ddatblygwyd gan Peniarth yn rhan o weledigaeth Llywodraeth Cymru i alluogi athrawon a dysgwyr Cymru ddysgu ac addysgu am hanes amlddiwylliannol ein gwlad, ac am amrywiaeth yng Nghymru ddoe a heddiw. Mae’n cefnogi pob un o Chwe Maes Dysgu a Phrofiad y Cwricwlwm i Gymru.

Mae astudio hanes a hanesion Cymru yn elfen bwysig o bedwar diben Cwricwlwm i Gymru wrth i fframwaith y cwricwlwm newydd adlewyrchu Cymru, ein treftadaeth ddiwylliannol a'n hamrywiaeth, ein hieithoedd a’n gwerthoedd, hanesion a thraddodiadau ein cymunedau a'n holl bobl.

Mae’r poster, sy'n 2 fetr o hyd a 40cm o led, yn cynnwys 20 ffigwr allweddol sydd wedi cyfrannu at lunio’r Gymru fodern, a thrwy ddefnyddio’r cod QR ar y poster ceir mynediad i wybodaeth bellach am bob un yn ddigidol ar Hwb. Gellir defnyddio’r ddwy ran fel sbardun i waith trafod ac ysgogi gwaith astudio pellach o fewn grŵp, fel dosbarth cyfan neu’n annibynnol. Mae dau boster, un ar gyfer y sector cynradd, ac un ar gyfer y sector uwchradd. Mae 15 unigolyn yn ymddangos ar y ddau boster, a 5 yn unigryw i'r naill sector a'r llall.

Os hoffech chi brynu copïau o'r posteri, mae cynnig arbennig wrth brynu 5 copi.

Gwybodaeth ychwanegol

Maint (mm)2000 x 400 x 2