Alun Un
SKU | CDAU |
---|---|
ISBN | 9781783901487 |
Pwysau | 100g |
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Mae Alun Un am fod y cyntaf i wneud bob dim! Mae am ennill pob cystadleuaeth ond tybed a'i Alun Un fydd yn ennill y gystadleuaeth heddiw? Ymunwch gydag Alun Un, Sara Sero a Deio Dau wrth iddynt hel mwyar duon. Mae adnabod, cyfri a threfnu rhifau i gyd yn rhan o ddysgu gyda phlant 3-5 oed. Camwch i fyd y Cymeriadau Difyr wrth iddynt eich tywys trwy Stryd y Rhifau gyda straeon sy'n cyflwyno gwahanol agweddau ar rifedd.
Mae'r gyfres hon yn cynnwys 21 llyfr stori Cymraeg ar gyfer dysgwyr cam cynnydd 1 ac wedi eu graddoli, ac yn ymestyn o lyfrau sy'n canolbwyntio ar y rhifau unigol o 0 i 10, hyd at destunau mwy heriol megis haneru, dyblu, trefnolion a llyfrau datrys problemau. Mae pob llyfr yn canolbwyntio ar gymeriad rhif, ac yn gymorth i hybu adnabyddiaeth plant o rifolion penodol mewn ffordd hwyliog a chyffrous. Adnodd gwych ar gyfer yr ystafell ddosbarth neu ar gyfer atgyfnerthu'r dysgu yn y cartref.

