Cati Chwech

SKUCDCCh
ISBN9781783901531
Pwysau150g
Pris rheolaidd £2.99
Pris rheolaidd £2.99 Pris arbennig £2.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.

Mae Cati Chwech wrth ei bodd yn darllen, mae'n darllen llyfrau a chomics drwy'r dydd. Ydych chi'n hoff o ddarllen? Ymunwch â Cati Chwech a'i ffrindiau o Stryd y Rhifau, Poli Pump a Sami Saith wrth i'r tri fynd am dro i'r llyfrgell. Mae pob math o lyfrau yn y llyfrgell. Pa fath o straeon ydych chi'n hoff o'u darllen? Darllenwch y stori er mwyn gweld sawl chwech a welwch chi yn y llyfrgell. Mae adnabod, cyfri a threfnu rhifau i gyd yn rhan o ddysgu gyda phlant 3-5 oed. Camwch i fyd y Cymeriadau Difyr wrth iddynt eich tywys trwy Stryd y Rhifau gyda straeon sy'n cyflwyno gwahanol agweddau ar rifedd.

Mae'r gyfres hon yn cynnwys 21 llyfr stori Cymraeg ar gyfer dysgwyr cam cynnydd 1 ac wedi eu graddoli, ac yn ymestyn o lyfrau sy'n canolbwyntio ar y rhifau unigol o 0 i 10, hyd at destunau mwy heriol megis haneru, dyblu, trefnolion a llyfrau datrys problemau. Mae pob llyfr yn canolbwyntio ar gymeriad rhif, ac yn gymorth i hybu adnabyddiaeth plant o rifolion penodol mewn ffordd hwyliog a chyffrous. Adnodd gwych ar gyfer yr ystafell ddosbarth neu ar gyfer atgyfnerthu'r dysgu yn y cartref.