Anifeiliaid y dref
SKU | AAyDAyD |
---|---|
ISBN | 9781783902279 |
Pwysau | 160g |
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Mae’n Ddiwrnod Anifeiliaid y Byd ar y 4ydd o Hydref yn flynyddol ac mae’r llyfr hwn yn wych i gyflwyno’r dysgwyr i wahanol anifeiliaid sy’n ymweld â’r dref ar wahanol adegau o’r dydd. Tybed pa anifeiliaid sy'n cysgu yn ystod y nos, fel chi a fi, a pha anifeiliaid sy'n brysur yn crwydro'r dref, dan olau'r lleuad, wrth i ni gysgu? Ydych chi wedi gweld unrhyw anifeiliaid yn cerdded drwy strydoedd y dref yn ystod y dydd? Cliciwch yma i ymweld â'n gwefan 'Digwyddiadur' sy'n cynnwys llu o ddigwyddiadau cenedlaethol a byd-eang sy'n digwydd yn ystod y flwyddyn a syniadau am lyfrau ac adnoddau sy'n cyd-fynd â nhw i gyfoethogi'r dysgu.
Mae 'Anifeiliaid y Dref' yn rhan o gyfres Archwilio'r Amgylchedd yn y dref: Cyfres 1. Cyfresi sy'n dilyn anturiaethau Betsan a Roco wrth iddyn nhw archwilio'r dref yw Archwilio’r Amgylchedd yn y dref. Mae Cyfres 1 yn cynnwys 8 stori neu gerdd gwreiddiol i blant ar Gamau Cynnydd 1 a 2. Eu nod yw cefnogi gwahanol feysydd dysgu a phrofiad gan ganolbwyntio ar archwilio a darganfod yn yr awyr agored.
Mae'r llyfrau'n cynnig cyfle i godi chwilfrydedd y plant ynghylch eu hamgylchedd yn ogystal â'u hannog i fwynhau drwy archwilio, ymholi, arbrofi, gofyn cwestiynau a cheisio dod o hyd i atebion. Cyfres yw hon sy'n datblygu cyfleoedd i'r plant ddarllen a mynegi eu syniadau, eu safbwyntiau a'u teimladau gan ddangos dychymyg, creadigrwydd a sensitifrwydd tuag at eu hamgylchedd. Os prynwch chi’r gyfres gyflawn, cewch 6 cerdyn her ar gyfer pob llyfr sy'n cynnwys heriau amrywiol y gallech eu defnyddio er mwyn cefnogi'r dysgu ymhellach, gan ddarparu cyfle i ddysgwyr i atgyfnerthu’r sgiliau maent wedi dysgu.

