Croesi'r Ffordd
SKU | AAyDCFf |
---|---|
ISBN | 9781783902231 |
Pwysau | 160g |
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Mae'n fis Rhyngwladol Cerdded i'r Ysgol ym mis Hydref. A yw eich dysgwyr yn gwybod sut i groesi'r ffordd yn ddiogel? Wrth ddarllen y llyfr hwn byddant yn dysgu sut i wneud hynny mewn ffordd gyfrifol a diogel gyda Betsan a Roco! Dysgwch faint o gamau sydd angen i chi eu cymryd cyn croesi'r ffordd. Oeddech chi'n gwybod ei bod hi'n fis Diogelwch Cenedlaethol ym mis Mehefin? Ac Wythnos Diogelwch Ffyrdd rhwng y 18fed a'r 25ain o Dachwedd? Llawer o opsiynau i ddefnyddio'r llyfr hwn a rhoi hyder i'ch dysgwyr groesi'r ffordd yn ddiogel!
Cliciwch yma i ymweld â'n gwefan 'Digwyddiadur' sy'n cynnwys llu o ddigwyddiadau cenedlaethol a byd-eang sy'n digwydd yn ystod y flwyddyn a syniadau am lyfrau ac adnoddau sy'n cyd-fynd â nhw i gyfoethogi'r dysgu.
Mae ‘Croesi’r Ffordd’ yn rhan o gyfres Archwilio'r Amgylchedd yn y dref: Cyfres 1. Cyfresi sy'n dilyn anturiaethau Betsan a Roco wrth iddyn nhw archwilio'r dref yw Archwilio’r Amgylchedd yn y dref. Mae Cyfres 1 yn cynnwys 8 stori neu gerdd wreiddiol i blant ar Gamau Cynnydd 1 a 2. Eu nod yw cefnogi gwahanol feysydd dysgu a phrofiad gan ganolbwyntio ar archwilio a darganfod yn yr awyr agored.
Mae'r llyfrau'n cynnig cyfle i godi chwilfrydedd y plant ynghylch eu hamgylchedd yn ogystal â'u hannog i fwynhau drwy archwilio, ymholi, arbrofi, gofyn cwestiynau a cheisio dod o hyd i atebion. Cyfres yw hon sy'n datblygu cyfleoedd i'r plant ddarllen a mynegi eu syniadau, eu safbwyntiau a'u teimladau gan ddangos dychymyg, creadigrwydd a sensitifrwydd tuag at eu hamgylchedd. Os prynwch chi’r gyfres gyflawn, cewch 6 cerdyn her ar gyfer pob llyfr sy'n cynnwys heriau amrywiol y gallech eu defnyddio er mwyn cefnogi'r dysgu ymhellach, gan ddarparu cyfle i ddysgwyr i atgyfnerthu’r sgiliau maent wedi dysgu.