Archwilio'r Amgylchedd yn y dref: Series 2
SKU | AAYD2 |
---|---|
ISBN | 9781783902347 |
Pwysau | 3160g |
Dewch i ddilyn anturiaethau Betsan a Roco wrth iddyn nhw archwilio'r dref. Dyma gyflwyno Cyfres 2, sef 8 o straeon a cherddi gwreiddiol i blant yn y Cyfnod Sylfaen. Eu nod yw cefnogi gwahanol feysydd dysgu a phrofiad gan ganolbwyntio ar archwilio a darganfod yn yr awyr agored.
Mae'r llyfrau'n cynnig cyfle i godi chwilfrydedd y plant ynghylch eu hamgylchedd yn ogystal â'u hannog i fwynhau drwy archwilio, ymholi, arbrofi, gofyn cwestiynau a cheisio dod o hyd i atebion. Cyfres yw hon sy'n datblygu cyfleoedd i'r plant ddarllen a mynegi eu syniadau, eu safbwyntiau a'u teimladau gan ddangos dychymyg, creadigrwydd a sensitifrwydd tuag at eu hamgylchedd.
8 Llyfr A4: (Anifeiliaid Anwes, Bwrw Glaw, Darllen y Dref, Deffro Roco, Dyddiadur Betsan, Gofal Gofal, Maes Awyr, Trip i'r farchnad).
48 Cerdyn her A4 (6 cherdyn ar gyfer pob llyfr)
2 boster A3
Canllaw i Athrawon