Llyfrau Digidol Dyna chi dric

Pris rheolaidd £1.50
Pris rheolaidd £1.50 Pris arbennig £1.50
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.
Teitl

Nod y gyfres ddarllen Gymraeg Dyna chi dric yw tanio diddordeb plant ifanc mewn llyfrau a straeon cyffrous wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau darllen a dod yn ddarllenwyr hyderus. Mae'r gyfres yn defnyddio amrywiaeth o genres, gan gynnwys llyfrau ffeithiol, cyfarwyddiadau, cardiau post a straeon odli. Mae'r gyfres ddarllen hon yn addas ar gyfer dysgwyr sy'n dysgu darllen yn Gymraeg ac sydd ar gamau cynnydd 1 a 2.

Mae'r fersiynau digidol hyn yn gweithredu fel cefnogaeth i'r llyfrau printiedig a’r gweithgareddau rhyngweithiol sydd ar gael am ddim. Mae pob fersiwn ddigidol o'r llyfr yn cynnwys darllenydd rhyngweithiol, sy’n cynnwys darlleniad gydag ynganiad sy'n gyson â'r hyn a ddysgir yn y rhaglen Tric a Chlic, y mae Dyna chi dric wedi'i seilio arni.

Trwy brynu un o'r cynhyrchion ar y dudalen hon, byddwch yn derbyn cod sy'n rhoi mynediad diderfyn i'r fersiwn ddigidol o'ch llyfr(au) dewisol trwy wefan Dyna chi dric.

Cael mynediad i'ch Llyfrau Dewisol

Derbyn eich Codau

Pan fyddwch yn cwblhau taliad am nwyddau sy’n cynnwys un o'r cynhyrchion ar y dudalen hon, bydd eich cod(au) yn cael eu hanfon at y cyfeiriad e-bost  a ddefnyddiwyd gennych ar gyfer eich taliad. Dylech hefyd gael eich codau ar y dudalen cadarnhau archeb ar ôl talu.

Talu Trwy Anfoneb

Bydd codau ar gyfer archebion y telir amdanynt trwy anfoneb yn cael eu hanfon ar ôl i'r taliad gael ei gadarnhau. Yn dilyn cadarnhad talu, bydd codau yn cael eu e-bostio i'r cyfeiriad a ddefnyddir i greu'r archeb wreiddiol.

Adennill eich codau

  1. Mewngofnodwch i wefan Dyna chi dric
    1. Bydd yn rhaid i chi greu cyfrif os nad ydych eisoes wedi gwneud hynny, ond gall y cyfrif hwn ddefnyddio cyfeiriad e-bost gwahanol i'r un a ddefnyddiwyd wrth brynu ar ein siop, os ydych chi’n dymuno.
  2. Ewch i'r dudalen defnyddio cod
    1. Ar ôl mewngofnodi, gallwch ddod o hyd i’r dudalen hon o botwm ar y dudalen hafan, neu o'r ddewislen gyflym yng nghornel dde uchaf y wefan.
  3. Rhowch eich cod a chliciwch ar y botwm Defnyddio Cod
    1. Byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau eich archeb, a gallwch weld eich codau ar eich tudalen cyfrif.
  4. Ewch i'r rhestr lyfrau a dechrau darllen! (Yn ystod mis Mehefin 2024, mae'r holl lyfrau ar gael i'w darllen am ddim - ar ôl y pwynt hwn byddwch yn cadw mynediad at unrhyw lyfrau yr ydych wedi eu prynu)