Taclo'r Tasgau: Bwndel 1+2

SKUBWN-TT
ISBN---
Pwysau640g
Pris rheolaidd £4.99
Pris rheolaidd £4.99 Pris arbennig £4.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.

2 am bris 1!

Mae yna ddau lyfr yn y gyfres hwn sy'n cynnwys gweithgareddau darllen a deall difyr i ddisgyblion ar Gam Cynnydd 4. Eu nod yw cryfhau sgiliau darllen dysgwyr ac ehangu eu geirfa a'u gwybodaeth am yr iaith mewn ystod o gyd-destunau. Mae'r llyfrau hefyd yn cynnig cyfleoedd i'r dysgwyr ddatblygu ymhellach eu sgiliau llafar, rhifedd a rhesymu. Dyma adnodd i gefnogi dysgwyr ac athrawon gyda chynnwys profion darllen gan ategu gofynion llythrennedd Cwricwlwm i Gymru.

Dylid defnyddio Taclo'r Tasgau fel adnodd ystafell ddosbarth i addysgu yn bennaf gan fanteisio ar gyfleoedd i ehangu geirfa a gwybodaeth am iaith y dysgwyr mewn ystod o gyd-destunau. Nid oes rhaid cyflwyno gweithgaredd cyfan ar yr un pryd i'r dysgwyr. Gellid defnyddio un testun dros gyfnod o amser, gan dynnu sylw at wahanol nodweddion yn y testun wrth baratoi ac yna, roi adborth wedi i'r dysgwyr gwblhau'r dasg.
Ar ddiwedd mwyafrif y darnau mae cwestiynau trafod, ymchwilio neu ysgrifennu estynedig. Bydd y cwestiynau yma yn rhoi cyfle i'r dysgwyr resymu ac maen nhw'n cynnig cyfleoedd gwych i ddatblygu sgiliau ehangach y dysgwyr.

Mae'r gyfres yn annog dysgwyr i ddod o hyd i'r atebion ac i gyfoethogi'u gwybodaeth trwy gyfrwng casgliad o destunau apelgar a gafaelgar. Mae'r llyfrau wedi'u graddoli ac yn gallu cael eu defnyddio yn yr ysgol neu'r cartref. Cefnogir y llyfrau hefyd gan adnoddau rhyngweithiol ar Hwb.

Gwybodaeth ychwanegol

Maint (mm)297 x 215 x 24