Ditectif Geiriau: Bwndel 4 Llyfr

SKUBWN-DG
ISBN---
Pwysau1080g
Pris rheolaidd £14.99
Pris rheolaidd £14.99 Pris arbennig £14.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.
Helpwch eich dysgwyr i ddod yn dditectifs iaith gyda'r gyfres ddifyr ac addysgiadol hon, Ditectif Geiriau.

Bydd y gyfres hon yn helpu i ddatblygu galluoedd darllen a deall dysgwyr ar gam cynnydd tri. Mae'n cynnwys amrywiaeth eang o ymarferion ffeithiol a dychmygus. Ategir yr ymarferion hyn gan ddetholiad o weithgareddau rhyngweithiol ar-lein sydd wedi’u paratoi i gefnogi a gwella dysgu. Hwb  

Darparu cyfleoedd i ehangu sgiliau iaith a geirfa, yn ogystal â datblygu gallu darllen, yw prif nodau’r teitl a’r gyfres hon. Serch hynny, mae digonedd o gyfleoedd eraill yma hefyd i ddatblygu sgiliau llafaredd, rhifedd a rhesymu. Mae’r gweithgareddau'n cloi gyda chwestiynau sydd wedi'u hanelu'n benodol at ehangu'r dysgu y tu hwnt i gwmpas y gweithgaredd, dyma’r cwestiwn trafod neu ysgrifennu estynedig sy’n rhoi cyfle i’r dysgwyr resymu ac mae’n cynnig cyfleoedd gwych i ddatblygu sgiliau ehangach y dysgwyr.

Mae gyfres hon wedi'u paratoi'n benodol gyda hyblygrwydd defnydd mewn golwg. Mae gweithio trwy'r llyfr mewn trefn yn un opsiwn, ond nid yw hyn yn angenrheidiol. Yn ogystal, tra bod y llyfr yn gydymaith ardderchog ac yn gymorth dysgu ar gyfer gwersi Cymraeg, mae hefyd yn gwbl addas i'w ddefnyddio yn y cartref. Nid oes rhaid cyflwyno gweithgaredd cyfan ar yr un pryd i'r dysgwyr. Gellid defnyddio un testun dros gyfnod o amser, gan dynnu sylw at wahanol nodweddion yn y testun wrth baratoi ac yna, roi adborth wedi i'r dysgwyr gwblhau'r dasg.
Mae'r 4 llyfr yn y gyfres wedi eu graddoli i ddarparu dilyniant a chynnydd yn yr her i'r dysgwyr.