Bwyd o Bedwar Ban Byd
SKU | AAyDBBB |
---|---|
ISBN | 9781783902286 |
Pwysau | 160g |
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Ydych chi'n gwybod o le mae'ch grawnfwyd yn dod? Beth am eich banana neu oren? Neu beth am eich siocled blasus? Mae'r llyfr hwn yn gyfle gwych i ddysgu o le mae ein bwyd yn dod a le mae'r gwledydd ar draws y byd! Allwch chi ddod o hyd i Gymru ar y map? Mae'n Ddiwrnod Bwyd y Byd ar yr 16eg o Hydref, mae hwn yn sbardun gwych i'ch diwrnod neu syniadau ar gyfer gweithgareddau a heriau amrywiol ar gyfer eich corneli. Cliciwch yma i ymweld â'n gwefan 'Digwyddiadur' sy'n cynnwys llu o ddigwyddiadau cenedlaethol a byd-eang sy'n digwydd yn ystod y flwyddyn a syniadau am lyfrau ac adnoddau sy'n cyd-fynd â nhw i gyfoethogi'r dysgu.
Mae 'Bwyd o Bedwar ban Byd' yn rhan o gyfres Archwilio'r Amgylchedd yn y dref: Cyfres 1. Cyfresi sy'n dilyn anturiaethau Betsan a Roco wrth iddyn nhw archwilio'r dref yw Archwilio’r Amgylchedd yn y dref. Mae Cyfres 1 yn cynnwys 8 stori neu gerdd wreiddiol i blant ar Gamau Cynnydd 1 a 2. Eu nod yw cefnogi gwahanol feysydd dysgu a phrofiad gan ganolbwyntio ar archwilio a darganfod yn yr awyr agored.
Mae'r llyfrau'n cynnig cyfle i godi chwilfrydedd y plant ynghylch eu hamgylchedd yn ogystal â'u hannog i fwynhau drwy archwilio, ymholi, arbrofi, gofyn cwestiynau a cheisio dod o hyd i atebion. Cyfres yw hon sy'n datblygu cyfleoedd i'r plant ddarllen a mynegi eu syniadau, eu safbwyntiau a'u teimladau gan ddangos dychymyg, creadigrwydd a sensitifrwydd tuag at eu hamgylchedd. Os prynwch chi’r gyfres gyflawn, cewch 6 cerdyn her ar gyfer pob llyfr sy'n cynnwys heriau amrywiol y gallech eu defnyddio er mwyn cefnogi'r dysgu ymhellach, gan ddarparu cyfle i ddysgwyr i atgyfnerthu’r sgiliau maent wedi dysgu.