Bwrw Glaw

SKUAAYDBG
ISBN9781783902187
Pwysau160g
Pris rheolaidd £3.99
Pris rheolaidd £3.99 Pris arbennig £3.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.

Pa fath o dywydd ydych chi'n hoffi? Glaw, eira, neu haul? Mae bob tywydd yn dod yn ei dro ac mae'n rhaid cofio fod hyn yn bwysig ar gyfer y Gylchred Ddŵr. Er bod y glaw yn achosi problemau i nifer, mae'n ddefnyddiol iawn os ydyn ni'n medru ail-ddefnyddio. Ewch i ddarllen sut mae'r glaw yn helpu Tad-cu i dyfu ei lysiau a'i flodau!

Mae 'Bwrw Glaw' yn rhan o gyfres Archwilio’r Amgylchedd yn y dref: Cyfres 2. Cyfresi sy'n dilyn anturiaethau Betsan a Roco wrth iddyn nhw archwilio'r dref yw'r rhain. Mae Cyfres 2 yn cynnwys 8 stori neu gerdd gwreiddiol i blant ar Gam Cynnydd 2. Eu nod yw cefnogi gwahanol feysydd dysgu a phrofiad gan ganolbwyntio ar archwilio a darganfod yn yr awyr agored.

Mae'r llyfrau'n cynnig cyfle i godi chwilfrydedd y plant ynghylch eu hamgylchedd yn ogystal â'u hannog i fwynhau drwy archwilio, ymholi, arbrofi, gofyn cwestiynau a cheisio dod o hyd i atebion. Cyfres yw hon sy'n datblygu cyfleoedd i'r plant ddarllen a mynegi eu syniadau, eu safbwyntiau a'u teimladau gan ddangos dychymyg, creadigrwydd a sensitifrwydd tuag at eu hamgylchedd. Os prynwch chi’r gyfres gyflawn, cewch 6 cerdyn her ar gyfer pob llyfr sy'n cynnwys heriau amrywiol y gallech eu defnyddio er mwyn cefnogi'r dysgu ymhellach, gan ddarparu cyfle i ddysgwyr i atgyfnerthu’r sgiliau maent wedi dysgu.