Bingo
SKU | CDB |
---|---|
ISBN | 9781783901678 |
Pwysau | 80g |
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Mae Dilys Deg ar ei ffordd i'r neuadd bentref i chwarae bingo gyda'i ffrindiau o Stryd y Rhifau. Bydd ei ffrindiau i gyd yno! Ydych chi erioed wedi chwarae bingo? Tybed pwy fydd yn ennill y gêm? Ymunwch gyda'r rhifau yn y gêm bingo, fedrwch chi ddweud ac adnabod y rhifau y mae Sara Sero yn eu galw? Llygaid i lawr, bawb a phob lwc! Mae adnabod, cyfri a threfnu rhifau i gyd yn rhan o ddysgu gyda phlant 3-5 oed.
Camwch i fyd y Cymeriadau Difyr wrth iddynt eich tywys trwy Stryd y Rhifau gyda straeon sy'n cyflwyno gwahanol agweddau ar rifedd. Mae'r gyfres hon yn cynnwys 21 llyfr stori Cymraeg ar gyfer dysgwyr cam cynnydd 1 ac wedi eu graddoli, ac yn ymestyn o lyfrau sy'n canolbwyntio ar y rhifau unigol o 0 i 10, hyd at destunau mwy heriol megis haneru, dyblu, trefnolion a llyfrau datrys problemau. Mae pob llyfr yn canolbwyntio ar gymeriad rhif, ac yn gymorth i hybu adnabyddiaeth plant o rifolion penodol mewn ffordd hwyliog a chyffrous. Adnodd gwych ar gyfer yr ystafell ddosbarth neu ar gyfer atgyfnerthu'r dysgu yn y cartref.

