Mae Trin a Thrafod i Blant: Datblygu Sgiliau Cymdeithasol yn llyfr gwaith proffesiynol. Mae’n helpu addysgwyr a therapyddion sy’n darparu grwpiau mewn sgiliau cymdeithasol a sgiliau perthynas i blant ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol neu ymddygiadol. Mae’r adnoddau’n cynnwys fframwaith asesu, ffurflenni cynllunio a gwerthuso, cynllun ymyrraeth dros dri thymor i ysgolion, dros 60 o sesiynau gweithgareddau strwythuredig yn canolbwyntio ar sgiliau cymdeithasol, a’r holl daflenni a delweddau atodol angenrheidiol i gyflwyno’r sesiynau. Cyflwynir yr argraffiad Cymraeg hwn yn seiliedig ar ail argraffiad Saesneg o Talkabout for Children: Developing Social Skills gyda darluniau a thaflenni llawn lliw, ac mae’n cynnwys cyflwyniad newydd gan Alex Kelly yn myfyrio ar ei phrofiadau hi ei hun o ddefnyddio’r adnoddau ers iddynt gael eu datblygu gyntaf.
Gwybodaeth | |
Awdur | Alex Kelly |
Trin a Thrafod i Blant: Datblygu Sgiliau Cymdeithasol
- Côd cynnyrch: TATHIB-DSC
- ISBN: 9781783904136
- Argaeledd: Mewn Stoc
-
£42.99
- Ac eithrio TAW: £42.99
Cynnyrch Cysylltiedig:
Trin a Thrafod i Bobl Ifanc: Datblygu Sgiliau Cyfathrebu Cymdeithasol ac Emosiynol
Mae Trin a Thrafod i Bobl Ifanc: Datblygu Sgiliau Cyfathrebu Cymdeithasol ac Emosiynol yn llyfr gw..
£42.99 Ac eithrio TAW: £42.99
Trin a Thrafod i Blant: Datblygu Sgiliau Cymdeithasol
Mae Trin a Thrafod i Blant: Datblygu Sgiliau Cymdeithasol yn llyfr gwaith proffesiynol. Mae’n help..
£42.99 Ac eithrio TAW: £42.99
Trin a Thrafod i Blant: Datblygu Hunanymwybyddiaeth a Hunan-barch
Mae Trin a Thrafod i Blant: Datblygu Hunanymwybyddiaeth a Hunan-barch yn llyfr gwaith proffesiynol..
£42.99 Ac eithrio TAW: £42.99