Cymeriadau hoffus a phoblogaidd byd Cyw sy'n ganolbwynt i'r adnodd unigryw hwn.
Prif nod y llyfr yw datblygu medrau llafar plant o oedran ifanc iawn, trwy gynnig cyfleoedd iddynt ddatblygu geirfa newydd gan ymestyn yr eirfa honno wrth drafod y lluniau a'r sefyllfaoedd a ddarlunir. Cynlluniwyd y golygfeydd amrywiol gan gadw mewn cof nodweddion Deilliant 2 ar draws pedwar Maes Dysgu Proffil y Cyfnod Sylfaen.
Ar gyfer pob golygfa ceir;
- braslun o brif nodweddion yr olygfa benodol honno
- set o gwestiynau caeedig a phenagored i ysgogi trafodaeth
- rhestr o eirfa benodol ar gyfer yr olygfa honno
- ystod o syniadau am weithgareddau
- cyfle i ddatblygu ymhellach nifer helaeth o sgiliau ymarferol, corfforol, annibynnol, creadigol, personol, ieithyddol a mathemategol y plentyn
- tabl sy'n nodi union berthynas y gweithgareddau â Phroffil y Cyfnod Sylfaen
I gyd-fynd â'r ffliplyfr A3, ceir pamffled lliwgar sy'n nodi union ddatganiadau Proffil y Cyfnod Sylfaen, o gyrhaeddiad efydd hyd at Ddeilliant 6 yn y pedwar Maes Dysgu.
Gwybodaeth | |
ISBN | 9781783900800 |
Awdur | Llio Dyfri Jones Maureen Williams Meleri Jones Rhian Davies Nia Evans |
Ar gael yn | Cymraeg yn unig |
Dylunydd | Debbie Thomas |
Beth welwch chi?
- Côd cynnyrch: BWCh
- ISBN: 9781783900800
- Argaeledd: Mewn Stoc
-
£14.99
£9.99
- Ac eithrio TAW: £9.99
Cynnyrch Cysylltiedig:
Dominos Cyw a'i ffrindiau
Dewch i chwarae dominos gyda Cyw a'i ffrindiau! Mae'r set wedi ei argraffu ar gardiau mawr er ..
£6.99 £9.99 Ac eithrio TAW: £6.99
Beth Welwch Chi? 2 | What Can You See 2
*Fersiwn dwyieithog*Cymeriadau hoffus a phoblogaidd byd Cyw sy'n ganolbwynt i'r adnodd unigryw hwn...
£14.99 Ac eithrio TAW: £14.99