• Tric a Chlic ar gyfer Ysgolion Cyfrwng Saesneg - Cam 2

Mae plant mewn ysgolion lle nad yw'r Cymraeg yn iaith gyntaf yn gweithredu rhaglen ffoneg synthetig, yn barod, trwy gyfrwng y Saesneg. Cynllun yw sy'n dilyn strwythur pendant mewn ffordd systematig, cyflym a chyffrous.

Yn sgîl hyn, daw'r plant i adnabod sain a ffurf llythrennau gan symud gam ymhellach i ddysgu strategaethau cyfuno i ddarllen a rhannu geiriau wrth sillafu. Oherwydd bod eu strategaethau darllen cynnar yn gryf yn y famiaith, mae'n broses naturiol i adeiladu ar eu gwybodaeth gan gyflwyno cynllun, sy'n dilyn yr un broses ond yn yr iaith Gymraeg. Wrth ddefnyddio eu gwybodaeth flaenorol fe ddaw'r plant i ddarllen a sillafu yn y Gymraeg wrth ddefnyddio cynllun newydd 'Tric a Chlic'.

Y cwestiwn sy'n codi yn dilyn y broses o ddarllen yw: 'Ydy'r plant yn deall yr hyn a ddarllenir?' Mewn ymateb i'r cwestiwn lluniwyd cyfres o gwestiynau dwyieithog, wedi'u graddoli, er budd yr athrawon, gan annog y plant i bori drwy'r cliwiau yn y llyfr. Hefyd ychwanegwyd gemau addas a chaneuon pwrpasol i atgyfnerthu yr hyn a addysgwyd. Bydd ap Tric a Chlic o fudd, eto i atgyfnerthu mewn ffordd gyffrous gan ddefnyddio technoleg fodern. 


Tric a Chlic:

  • Adeiladu ar wybodaeth y plant.
  • Wedi ei dreialu mewn ysgolion.
  • Yn hwyl gan ddefnyddio'r synhwyrau.
  • Yn adnodd parod i'w ddefnyddio.
  • Annog plant i siarad, darllen, trafod, sillafu ac ysgrifennu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Y pecyn yma'n cynnwys:

  • 7 llyfrau - 6 o bob un
  • 78 cardiau A5
  • 20 stribedi darllen A4 i'w dorri
  • 46 cardiau adolygu A5 o Gam 1
  • 11 A4 cardiau gêm









Gwybodaeth
ISBN 9781783902354
Awdur Eirian Lloyd Jones
Ar gael yn Dwyieithog
Dylunydd Rhiannon Sparks

Ysgrifennu adolygiad

Angen mewngofnodi neu cofrestru i rhoi adolygiad.

Tric a Chlic ar gyfer Ysgolion Cyfrwng Saesneg - Cam 2

  • Côd cynnyrch: TACEM2
  • ISBN: 9781783902354
  • Argaeledd: Mewn Stoc
  • £75.00

  • Ac eithrio TAW: £75.00

Cynnyrch Cysylltiedig:

Tric a Chlic - Llythrennau Magnetig

Tric a Chlic - Llythrennau Magnetig

Ar gyfer yr ysgol a'r cartref!Yn y pecyn ceir: llythrennau’r wyddor Gymraeg, y treigladau, yr acenio..

£9.99 Ac eithrio TAW: £9.99

Tric a Chlic ar gyfer Ysgolion Cyfrwng Saesneg - Cam 2 - Set o Lyfrau

Tric a Chlic ar gyfer Ysgolion Cyfrwng Saesneg - Cam 2 - Set o Lyfrau

Y pecyn yma'n cynnwys 7 llyfrau - 6 o bob un.Mae plant mewn ysgolion lle nad yw'r Cymraeg yn iaith g..

£50.00 Ac eithrio TAW: £50.00

Tric a Chlic ar gyfer Ysgolion Cyfrwng Saesneg - Cam 2 - Set o Gardiau

Tric a Chlic ar gyfer Ysgolion Cyfrwng Saesneg - Cam 2 - Set o Gardiau

Y pecyn yma'n cynnwys:78 cardiau A520 stribedi darllen A4 i'w dorri46 cardiau adolygu A5 o Gam 111 A..

£50.00 Ac eithrio TAW: £50.00