Jac-y-do (cam 1)
SKU | DCHD-1-JYD |
---|---|
ISBN | 9781783904433 |
Pwysau | 88g |
Mae Jac-y-do yn hoffi mynd am dro. Ond erbyn diwedd y stori hon mae angen i Jac-y-do gael bath! Mae Jac-y-do yn fwd i gyd! Tybed i ble aeth Jac-y-do am dro? Tybed beth sydd wedi achosi iddo gyrraedd pen ei daith yn llawn mwd? Mae’r ateb rhwng cloriau’r llyfr hwn.
Nod y gyfres ddarllen Gymraeg Dyna chi dric yw ennyn diddordeb y plant lleiaf mewn llyfrau a straeon difyr wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau darllen a dod yn ddarllenwyr hyderus. Ceir amrywiaeth o ffurfiau gwahanol yn y gyfres, yn cynnwys llyfrau ffeithiol, cyfarwyddiadau, cerdyn post a straeon ar odl. Mae’r llyfrau wedi eu graddoli ar dri cham, ac mae'r llyfr hwn ar gam 1 y gyfres.
Mae’r gyfres ddarllen hon yn addas ar gyfer dysgwyr 4-8 oed sy'n dysgu darllen yn Gymraeg sydd ar gamau cynnydd 1 a 2.
Eisiau herio'r darllenwr ymhellach? Gallwch ddod o hyd i weithgareddau rhyngweithiol, tabl geirfa a gweithgareddau trafod syml yng nghefn y llyfr i'ch cynorthwyo.