Pry cop yn y bath (cam 1)
| SKU | DCHD-1-PCYYB |
|---|---|
| ISBN | 9781783904440 |
| Pwysau | 88g |
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Mae Dad yn edrych ymlaen at gael bath. Ond mae pry cop yn y bath yn barod! Mae ofn Dad ar y pry cop am ei fod mor fawr, ond mae ofn y pry cop ar Dad hefyd! Diolch byth am Lil! Does dim ofn pry cop bach annwyl arni hi. Wyt ti’n hoffi pry cop?
Nod y gyfres ddarllen Gymraeg Dyna chi dric yw ennyn diddordeb y plant lleiaf mewn llyfrau a straeon difyr wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau darllen a dod yn ddarllenwyr hyderus. Ceir amrywiaeth o ffurfiau gwahanol yn y gyfres, yn cynnwys llyfrau ffeithiol, cyfarwyddiadau, cerdyn post a straeon ar odl. Mae’r llyfrau wedi eu graddoli ar dri cham, ac mae'r llyfr hwn ar gam 1 y gyfres.
Mae’r gyfres ddarllen hon yn addas ar gyfer dysgwyr 4-8 oed sy'n dysgu darllen yn Gymraeg sydd ar gamau cynnydd 1 a 2.
Eisiau herio'r darllenwr ymhellach? Gallwch ddod o hyd i dabl geirfa a gweithgareddau trafod syml yng nghefn y llyfr, ynghyd â gweithgareddau rhyngweithiol ar Hwb.

