Dyna chi dric: pecyn cam 3

SKUDCHD-C3
ISBN9781783904747
Pwysau789g
Pris rheolaidd £27.00
Pris rheolaidd £27.00 Pris arbennig £27.00
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.

Mae’r pecyn hwn yn cynnwys 7 llyfr ar gam 3 o'r gyfres ddarllen newydd sbon Dyna chi dric. Mae'r pecyn yn cynnwys y llyfrau canlynol:

  • Jac Codi Baw
  • Meic y mwnci
  • Pum parot lliwgar
  • Mynd ar y trên sgrech
  • Methu cysgu
  • Y Pry Bach
  • Cywion

Nod y gyfres ddarllen Gymraeg Dyna chi dric yw ennyn diddordeb y plant lleiaf mewn llyfrau a straeon difyr wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau darllen a dod yn ddarllenwyr hyderus. Mae’r llyfrau wedi eu graddoli ar draws tri cham. Ceir amrywiaeth o ffurfiau gwahanol yn y gyfres, yn cynnwys llyfrau ffeithiol, cyfarwyddiadau, cerdyn post a straeon ar odl.

Mae’r gyfres ddarllen hon yn addas ar gyfer dysgwyr 4-8 oed sy'n dysgu darllen yn Gymraeg ac sydd ar gamau cynnydd 1 a 2. Adnodd gwych ar gyfer yr ysgol a'r cartref.