Mae’r llyfr hwn yn perthyn i gyfres o ddau lyfr sy’n cynnwys
gweithgareddau darllen a deall difyr i ddisgyblion yng Ngyfnod Allweddol 3. Eu nod yw cryfhau sgiliau darllen dysgwyr
ac ehangu eu geirfa a’u gwybodaeth am yr iaith mewn ystod o gyd-destunau. Mae’r
llyfrau hefyd yn cynnig cyfleoedd i’r dysgwyr ddatblygu ymhellach eu sgiliau
llafar, rhifedd a rhesymu.
Mae’r gyfres yn annog dysgwyr i ddod o hyd i’r atebion ac i
gyfoethogi’u gwybodaeth trwy gyfrwng casgliad o destunau apelgar a gafaelgar. Mae’r
llyfrau wedi’u graddoli ac yn gallu cael eu defnyddio yn yr ysgol neu’r cartref.
Cefnogir y llyfrau hefyd gan adnoddau rhyngweithiol: https://adnoddau.canolfanpeniarth.org/taclor-tasgau/
Gwybodaeth | |
ISBN | 978-1-78390-137-1 |
Awdur | Bethan Clement, Non ap Emlyn |
Ar gael yn | Cymraeg yn unig |
Dylunydd | Rhiannon Sparks, David Earls, Gwenno Henley |
Taclo'r Tasgau: Llyfr1
- Côd cynnyrch: TT1
- ISBN: 9781783901371
- Argaeledd: Mewn Stoc
-
£6.99
£4.00
- Ac eithrio TAW: £4.00
Cynnyrch Cysylltiedig:
Taclo'r Tasgau: Llyfr 2
Mae’r llyfr hwn yn perthyn i gyfres o ddau lyfr sy’n cynnwys gweithgareddau darllen a deall difyr a..
£4.00 £6.99 Ac eithrio TAW: £4.00