Tybed Pam - Llawlyfr Digidol
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Dyma lawlyfr a phecyn gweithgareddau i gyd fynd gyda’r llyfrau;
- Fi, dy frawd yw e!
- Holi Hai
- Gwneud y pethau bychain
- Y Seremoni Enwi
- Stori Reuben
- Planed arbennig Harri
Mae plant ifanc yn chwilfrydig ac yn gofyn cwestiynau yn naturiol am fywyd ac am y byd o’u hamgylch. Mae’r gyfres ‘Tybed pam?’ yn archwilio amrywiaeth o wahanol faterion ac agweddau ar addysg grefyddol a moesol trwy gyfrwng llyfrau stori lliwgar a gweithgareddau atodol sy’n addas i blant ar gamau cynnydd 1 a 2. Mae’r gweithgareddau wedi’u cynllunio er mwyn darparu cyfleoedd deniadol, ymarferol a chyfannol sy’n meithrin chwilfrydedd plant, i ddysgu mwy am eu hunain, am bobl eraill ac am y byd o’u cwmpas, yn ogystal â datblygu dealltwriaeth o’u treftadaeth grefyddol a diwylliannol yng Nghymru.
Mae’r gyfres yn datblygu dealltwriaeth a gwybodaeth disgyblion o grefydd a materion crefyddol, ac yn annog plant i ddatblygu syniadau, barn a theimladau gyda dychymyg, creadigrwydd a sensitifrwydd, sy’n gallu helpu’r modd y maent yn edrych ar y byd, eu gobeithion, a’u breuddwydion.
Cafodd y gyfres hon ei chyhoeddi cyn Cwricwlwm i Gymru ac felly mae cyfeiriadau at sgiliau’r Fframwaith Addysg Grefyddol a’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd. Er hyn, mae’r syniadau am weithgareddau a’r gemau yn y llawlyfr hwn yn berthnasol i egwyddorion Cwricwlwm i Gymru.
Mae’r llyfrau stori allan o brint, ond nid oes angen i'r dysgwyr fod wedi darllen yr union straeon yma i ddefnyddio’r gweithgareddau, maen nhw yr un mor ddefnyddiol os ydyn nhw wedi bod yn dysgu am hanes Dewi Sant (Gwneud y pethau bychain), Joseff a’i got amryliw (Fi, dy frawd yw e!), y Pasg (Stori Reuben), Gwyl Hindwaidd Holi Hai (Holi Hai), Seremoni Enwi’r grefydd Sicaidd (Y Seremoni enwi), neu am warchod ein hamgylchedd (Planed arbennig Harri).
Mae’r llawlyfr yn cynnwys gemau lliwgar A3 y gellir eu hargraffu yn ogystal â syniadau a deunyddiau am weithgareddau ymarferol eraill i’r plant lleiaf, e.e. creu pice ar y maen, trafod beth ddylen ni neud mewn sefyllfaoedd penodol ar sail lluniau, gosod stori’r Pasg mewn trefn gyda lluniau, a llawer mwy.


