Llygaid sy'n Cusanu yn y Corneli
SKU | RH-LLSCYYC |
---|---|
ISBN | 9781783905966 |
Pwysau | 250g |
Addasiad Cymraeg Casia Wiliam o un o werthwyr gorau y New York Times. Dyma stori delynegol a theimladwy am ferch ifanc sy’n sylwi bod ei llygaid hi’n edrych yn wahanol i lygaid rhai o’i ffrindiau. Mae gan ei ffrindiau lygaid mawr crwn ac amrannau hir, ac mae hi’n sylwi bod ei llygaid hi’n cusanu yn y corneli ac yn plygu’n ddwy leuad gilgant. Mae ei llygaid yn union fel rhai ei mam, ei nain a’i chwaer fach, ac maen nhw’n llawn hanesion o’r goffennol a gobaith i’r dyfodol.
Addasiad Cymraeg o’r llyfr Saesneg a gyhoeddwyd yn wreiddiol yn 2021 ydy’r stori hon. Wrth adrodd hanes merch o deulu Tseineaidd, mae rhai termau wedi eu cadw yn yr iaith wreiddiol. Mae Mama yn golygu ‘Mam’, ac Amah yn golygu ‘Nain’ mewn gwahanol rannau o Asia, yn enwedig yn Tseina. ‘Chwaer fach’ yn yr iaith Tseineeg ydy Mei -Mei.
Gan dynnu nerth o’r menywod dylanwadol hyn yn ei bywyd, mae hi’n darganfod prydferthwch ei rhinweddau unigryw ei hun. Dyma lyfr sy’n dathlu amrywiaeth a phwysigrwydd hunan-gariad. Mae’r llyfr yn rhan o gyfres Rhyngom – Plethu Pobl Trwy Lyfrau, a ariennir gan Lywodraeth Cymru trwy Gyngor Llyfrau Cymru.
Mwynhewch y stori.