Hamdden yr Haf
SKU | AAyDHH |
---|---|
ISBN | 9781783902248 |
Pwysau | 160g |
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Pa weithgareddau ydych chi'n hoffi gwneud dros yr haf? Chwaraeon, siopa, mynd i weld ffilm, neu goginio? Mae gan Betsan a Roco amserlen o weithgareddau llawn i fwynhau dros yr haf! Ewch i weld ble fyddwn nhw'n mynd bob dydd yn ystod yr wythnos.
Mae Hamdden yn yr Haf yn rhan o gyfres Archwilio'r Amgylchedd yn y dref: Cyfres 1. Cyfresi sy'n dilyn anturiaethau Betsan a Roco wrth iddyn nhw archwilio'r dref yw Archwilio’r Amgylchedd yn y dref. Mae Cyfres 1 yn cynnwys 8 stori neu gerdd wreiddiol i blant ar Gamau Cynnydd 1 a 2. Eu nod yw cefnogi gwahanol feysydd dysgu a phrofiad gan ganolbwyntio ar archwilio a darganfod yn yr awyr agored.
Mae'r llyfrau'n cynnig cyfle i godi chwilfrydedd y plant ynghylch eu hamgylchedd yn ogystal â'u hannog i fwynhau drwy archwilio, ymholi, arbrofi, gofyn cwestiynau a cheisio dod o hyd i atebion. Cyfres yw hon sy'n datblygu cyfleoedd i'r plant ddarllen a mynegi eu syniadau, eu safbwyntiau a'u teimladau gan ddangos dychymyg, creadigrwydd a sensitifrwydd tuag at eu hamgylchedd. Os prynwch chi’r gyfres gyflawn, cewch 6 cerdyn her ar gyfer pob llyfr sy'n cynnwys heriau amrywiol y gallech eu defnyddio er mwyn cefnogi'r dysgu ymhellach, gan ddarparu cyfle i ddysgwyr i atgyfnerthu’r sgiliau maent wedi dysgu.

