Cnoi Cil: Bai ar Gam?
SKU | CCBAG |
---|---|
ISBN | 9781783902149 |
Pwysau | 500g |
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Roedd haf 1831 yn gyfnod cythryblus iawn yn hanes tref Merthyr Tudful. Tybed pa fath o olygfa oedd yna tua 200 mlynedd yn ôl? A wyddoch chi am hanes y gwrthryfel? Pwy oedd yn gyfrifol amdano? A pha ŵr ifanc a gafodd fai ar gam?Cewch atebion i'r cwestiynau yma a mwy wrth ddarllen a thrafod y llyfr hwn.
Dyma gyfres o 6 llyfr sy'n addas ar gyfer darllen cilyddol neu ddarllen tîm. Cewch 5 gopi o'r llyfr a set o gardiau chwarae rôl ym mhob pecyn. Mae'r cardiau yn cynnwys rolau Y Rhagfynegwr, Yr Arweinydd, Yr Esboniwr, Y Cwestiynwr a'r Crynhöwr.
Mae darparu amrywiaeth o ddulliau addysgu i ddatblygu medrau darllen disgyblion gan gynnwys darllen cilyddol yn greiddiol i ofynion Cwricwlwm i Gymru. Bydd y dysgwyr yn gweithio fel tîm i ymarfer sgiliau cipddarllen a llithrddarllen, cwestiynu a hunanholi, gwneud casgliadau a phennu pwysigrwydd yr wybodaeth.
Mae'r llyfrau wedi eu rhannu i bum thema, gall pob thema fod yn destun un wers neu'n weithgaredd darllen wythnosol. Dyma'r themâu ar gyfer y llyfr Bai ar Gam?: Y Chwyldro Diwydiannol, Merthyr Tudful, Gwrthryfel Merthyr 1831, Carcharu Eraill, Claddu Dic Penderyn, Dweud dy Ddweud.
Oeddech chi'n ymwybodol bod ein chwaer Ganolfan, Rhagoriaith yn darparu hyfforddiant ar ddatblygu sgiliau darllen? Cysylltwch â rhagoriaith@pcydds.ac.uk i dderbyn mwy o wybodaeth, neu i drefnu hyfforddiant ar gyfer eich gweithle chi.




