Cnoi Cil: Pleidiol Wyf i'm Gwlad
SKU | CCPWG_CCPWG |
---|---|
ISBN | 9781783902132 |
Pwysau | 500g |
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
'Gwlad! Gwlad! Pleidiol wyf i'm gwlad...' Mae cannoedd ar filoedd o Gymry'n gwybod y geiriau hyn. Maen nhw'n rhan o'n hanthem genedlaethol ni. Geiriau sy'n cael ei ganu droeon ar y caeau chwaraeon, ar ddiwedd cyngerdd neu ddathliad, ond faint ohonon ni sy'n gwybod hanes creu'r anthem? Mae'r anthem yn sôn am 'enwogion o fri', ac yn sicr, mae Cymru wedi cynhyrchu llawer o bobl enwog iawn; Tom Jones, Gareth Bale, Waldo Williams a phwy arall tybed? Drwy ddarllen y llyfr hwn cewch atebion i'r cwestiynau yma a mwy. Dyma lyfr addas ar gyfer dathliad Dydd Gŵyl Dewi.
Dyma gyfres o 6 llyfr sy'n addas ar gyfer darllen cilyddol neu ddarllen tîm. Cewch 5 gopi o'r llyfr a set o gardiau chwarae rôl ym mhob pecyn. Mae'r cardiau yn cynnwys Y Rhagfynegwr, Yr Arweinydd, Yr Esboniwr, Y Cwestiynwr a'r Crynhowr.
Mae'n bwysig darparu amrywiaeth o ddulliau addysgu i ddatblygu medrau darllen disgyblion gan gynnwys darllen cilyddol. Bydd y dysgwyr yn gweithio fel tîm i ymarfer sgiliau cipddarllen a llithrddarllen, cwestiynu a hunanholi, gwneud casgliadau a phennu pwysigrwydd y wybodaeth. Mae'r llyfrau wedi rhannu i bum thema, gall pob thema fod yn destun un wers neu'n weithgaredd darllen wythnosol. Dyma'r themau ar gyfer y llyfr Pleidiol Wyf i'm Gwlad; Yr Anthem Genedlaethol, Cyfansoddi'r Anthem, Pleidiol Wyf i'm Gwlad, Cymru - Ein Gwlad, Gwlad Beirdd, Cantorion ac Enwogion a Dweud dy Ddweud.
Oeddech chi'n ymwybodol fod ein chwaer Canolfan, Rhagoriaith yn darparu hyfforddiant darllen? Cysylltwch gyda rhagoriaith@pcydds.ac.uk i drefnu hyfforddiant ar gyfer eich gweithle chi.



