Llun a Thrin

SKULlaTh
ISBN9781783902040
Pwysau840g
Pris rheolaidd £14.99
Pris rheolaidd £14.99 Pris arbennig £14.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.
Mae pecyn Llun a Thrin yn cynnwys set o 30 cerdyn trafod maint A4 ar wahanol themâu ar gyfer dysgwyr ar ddiwedd Cam Cynnydd 2 a Cham Cynnydd 3. Ceir llun ar flaen pob cerdyn gyda set o gwestiynau a gweithgareddau i'r ymarferwr ar gefn pob cerdyn er mwyn ennyn trafodaeth ymhlith y dysgwyr.

Mae'r cardiau a'r gweithgareddau yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr gyflwyno gwybodaeth, syniadau, a barn, ac i wrand,, cydweithio, a thrafod mewn cyd-destunau ystyrlon. Ceir cyfleoedd i drafod mewn gwahanol gyweiriau iaith - ffurfiol ac anffurfiol - gan ddibynnu ar y cyd-destun. Mae'r gweithgareddau'n cwmpasu'r ystod gallu'n llawn, gyda rhai gweithgareddau ar gyfer dysgwyr sy'n gweithio ar lefel sylfaenol, ac eraill yn fwy addas ar gyfer dysgwyr mwy abl a thalentog.

Mae gweithgareddau i atgyfnerthu'r gwaith ar gael ar Hwb.

 

Gwybodaeth ychwanegol

Maint (mm)340 x 250 x 17