Ditectif Geiriau 3

SKUDG3_DG3
ISBN9781783900763
Pwysau270g
Pris rheolaidd £4.99
Pris rheolaidd £4.99 Pris arbennig £4.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.
Helpwch eich dysgwyr i ddod yn dditectifs iaith gyda'r gyfres ddifyr ac addysgiadol hon, Ditectif Geiriau.

Bydd y llyfr hwn yn helpu i ddatblygu galluoedd darllen a deall dysgwyr ar gam cynnydd tri. Mae'n cynnwys amrywiaeth eang o ymarferion ffeithiol a dychmygus. Ategir yr ymarferion hyn gan ddetholiad o weithgareddau rhyngweithiol ar-lein sydd wedi’u paratoi i gefnogi a gwella dysgu. Hwb 

Darparu cyfleoedd i ehangu sgiliau iaith a geirfa, yn ogystal â datblygu gallu darllen, yw prif nodau’r teitl a’r gyfres hon. Serch hynny, mae digonedd o gyfleoedd eraill yma hefyd i ddatblygu sgiliau llafaredd, rhifedd a rhesymu. Mae’r gweithgareddau'n cloi gyda chwestiynau sydd wedi'u hanelu'n benodol at ehangu'r dysgu y tu hwnt i gwmpas y gweithgaredd, dyma’r cwestiwn trafod neu ysgrifennu estynedig sy’n rhoi cyfle i’r dysgwyr resymu ac mae’n cynnig cyfleoedd gwych i ddatblygu sgiliau ehangach y dysgwyr.

Yn llawn gweithgareddau difyr sy’n tynnu ar gyd-destunau diddorol a chyfarwydd, mae’r llyfr hwn yn datblygu gallu’r dysgwyr i ddod o hyd i’r atebion priodol a chywir. Mae amrywiaeth mewn thema a chyd-destun yn galluogi'r dysgwr i ymgymryd ag ystod o weithgareddau sy'n ysgogol yn ogystal ag yn addysgol. Mae rhai o’r pynciau a drafodir yn Ditectif Geiriau 3 yn cynnwys:

• Bywyd yn Haiti
• Golygfa 1
• Y trên sgrech
• Cystadleuaeth pecyn parti
• Arwr
• Eich iechyd chi

Mae cynnwys y llyfr hwn, a phob llyfr yn y gyfres wedi'u paratoi'n benodol gyda hyblygrwydd defnydd mewn golwg. Mae gweithio trwy'r llyfr mewn trefn yn un opsiwn, ond nid yw hyn yn angenrheidiol. Yn ogystal, tra bod y llyfr yn gydymaith ardderchog ac yn gymorth dysgu ar gyfer gwersi Cymraeg, mae hefyd yn gwbl addas i'w ddefnyddio yn y cartref. Nid oes rhaid cyflwyno gweithgaredd cyfan ar yr un pryd i'r dysgwr. Gellid defnyddio un testun dros gyfnod o amser, gan dynnu sylw at wahanol nodweddion yn y testun wrth baratoi ac yna, roi adborth wedi i'r dysgwyr gwblhau'r dasg.
Pan fydd dysgwyr wedi cwblhau'r llyfr hwn, mae'r gyfres yn parhau gyda llyfr 4. Mae'r 4 llyfr yn y gyfres wedi eu graddoli i ddarparu dilyniant a chynnydd yn yr her i'r dysgwyr.