Holi Hai
| SKU | REHH |
|---|---|
| ISBN | 9781783900015 |
| Pwysau | 183g |
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Pum mlwydd oed yw Saabira ac mae'n aros yng nghartref ei mam-gu ac yn clywed stori arbennig Krishna. Beth am ddarllen y stori i ddarganfod sut mae Saabira a'i mam-gu yn profi hud a lledrith yn y mandir?
Dyma stori bersonol lle mae Mam-gu yn helpu ei hwyres i ddeall ystyr yr ŵyl Holi. Mae'r berthynas gariadus rhwng y ddau gymeriad yn arddangos y gwerthoedd Hindŵaidd y dymunai'r genhedlaeth hŷn eu trosglwyddo i'r genhedlaeth ifanc.
Mae'r llyfr stori yma'n cyd-fynd gyda'r llawlyfr digidol Tybed Pam.
Mae plant ifanc yn chwilfrydig ac yn gofyn cwestiynau yn naturiol am fywyd ac am y byd o’u hamgylch. Mae’r gyfres ‘Tybed pam?’ yn archwilio amrywiaeth o wahanol faterion ac agweddau ar addysg grefyddol a moesol trwy gyfrwng llyfrau stori lliwgar a gweithgareddau atodol sy’n addas i blant ar gamau cynnydd 1 a 2.

