Y Fflamingo Du

SKURH-YFFD
ISBN9781783906000
Pwysau350g
Pris rheolaidd £8.99
Pris rheolaidd £8.99 Pris arbennig £8.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.
Mae’r nofel hudolus hon yn defnyddio cerddi i gyfleu stori rymus am ddod i oed, a’r daith wrth geisio darganfod a derbyn pwy ydyn ni wrth i ni dyfu a datblygu.

Dilynwn daith Michael o’r ysgol gynradd, trwy’r amryw brofiadau sy’n dod i’w ran wrth fynd trwy bywyd mewn sawl ysgol hyd at ei ddyddiau yn y brifysgol lle gall fod y person mae e eisiau bod o’r diwedd. Caiff gyfle i serennu mewn plu pinc gan wefreiddio cynulleidfaoedd gyda’i farddoniaeth fel rhan o berfformiad drag. Daw’r nofel i ddiweddglo gogoneddus lle mae’r awdur yn ymestyn ei orwelion ac yn agor ei adennydd i deimlo’n gwbl rydd.

Bydd delweddau o’r fflamingo a chwarae â geiriau yn aros yn hir yn y cof ymhell wedi i chi ddilyn Michael i ben draw ei daith drwy gyfrwng y gwaith gwreiddiol hwn.

Gwybodaeth ychwanegol

Maint (mm)130 x 198 x 27
Tudalennau368