Fi, Fy Nhad a Phendraw'r Enfys

SKURH-FFNAPE
ISBN9781783906017
Pwysau350g
Pris rheolaidd £7.99
Pris rheolaidd £7.99 Pris arbennig £7.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.
Fy enw i yw Arwel, ac mae dau beth dwi'n sicr ohonyn nhw:
1. Mae Mam a Dad yn casáu ei gilydd, ac mae'n amhosib cuddio'r peth mwyach.
2. Maen nhw'n cadw cyfrinach oddi wrtha i, ond dwi ddim yn gwybod beth.
Dydy pethau ddim yn dda ar Arwel Allbright. Mae ei dad yn ymddwyn yn rhyfedd, a’i fam hefyd - a'r unig beth mae eisiau yw i bopeth fynd yn ôl i fel oedden nhw dri mis yngynt, pan roedd ei rieni’n hapus ac yn dal i fyw gyda’i gilydd.
Pan fo Arwel yn gweld taflen grychlyd, liwgar yn disgyn o boced Dad, mae’n meddwl efallai ei fod wedi dod o hyd i’r ateb. Yr unig broblem? Efallai bod yr ateb i'w ganfod ar ddiwedd yr enfys, trwy fynd ar antur.
Gyda’i ffrindiau gorau, Del a Seb, aiff Arwel ar siwrne fythgofiadwy i geisio datrys problemau ei deulu, gan dorri ambell reol ar hyd y daith...

Gwybodaeth ychwanegol

Maint (mm)130 x 198 x 21
Tudalennau352