Dewch i Deithio a Dysgu Sbaeneg Patagonia

Pris rheolaidd £250.00
Pris rheolaidd Pris arbennig £250.00
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.
Nifer o ddefnyddwyr

Hoffech chi gyflwyno Sbaeneg Patagonia i’ch dysgwyrDyma becyn addysgiadol cynhwysfawr i gyflwyno’r iaith i ddysgwyr gyda chymorth Min a Mei a’u ffrindiau yn Ysgol y Cwm, Trevelin, Patagonia 

Mae dwy brif elfen i’r pecyn:

    1. Hyfforddiantbydd angen i unrhyw ymarferwr syeisiau gweithredu’r pecyn fynychu hanner diwrnod o hyfforddiant arlein dros Teams. 

      Bydd
      cyfle i chi fynychu hyfforddiant ar;
       

               Ddydd Mawrth, 13eg o Ionawr 2026 – 9 – 12.30yp  

    1. Mynediad i saith uned o waith i’w cyflwyno dros hanner tymor/tymor cyfan. Bydd pob uned yn cynnwys cynlluniau gwersi cyflawn, clipiau fideo, gweithgareddau, caneuon, ffeiliau sain ac adnoddau y gellir eu hargraffu i gyflwyno elfennau syml o’r iaith i ddysgwyrBydd y pecyn hefyd yn cynnwys perfformiad yn Sbaeneg y gellir ei pherfformio ar ddiwedd y saith uned. Bydd mynediad gyda chi i'r unedau am dair blynedd 

    Nid oes angen unrhyw wybodaeth o’r iaith Sbaeneg ar ymarferydd i gyflwyno’r unedau.   

    Mae pris y pecyn yn amrywio yn unol â sawl defnyddiwr rydych chi eisiau i gael mynediad at y deunyddiau.

    Mae 3 opsiwn: 

    • Hyd at 3 defnyddiwr - £250 

    • Hyd at 6 defnyddiwr - £300 

    •  Hyd at 10 defnyddiwr - £400 

    Mae’r pris yma yn cynnwys hyfforddiant i ddefnyddwyr a thrwydded i’r ysgol ddefnyddio’r deunyddiau oddi fewn i ysgol y prynwr yn unig am dair blynedd 

    Ar ôl prynu’r adnodd, byddwch yn derbyn e-bost yn cynnwys ffurflen i chi gwblhau yn cadarnhau enwau ac e-byst y defnyddwyr, gan gynnwys yr hyfforddiant y byddan nhw’n mynychu. Bydd y defnyddwyr yn derbyn eu cyfrineiriau dri diwrnod cyn mynychu’r hyfforddiantbydd eich trwydded tair blynedd yn dechrau ar y diwrnod hwn 

    Wrth brynu, rydych yn cytuno â'r amodau a’r telerau yma.

     Os oes gennych unrhyw gwestiwn, cysylltwch â post@peniarth.cymru