Dewch i Deithio a Dysgu Ffrangeg

Pris rheolaidd £250.00
Pris rheolaidd Pris arbennig £250.00
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.
Nifer o ddefnyddwyr

Hoffech chi gyflwyno Ffrangeg i’ch dysgwyr?  Dyma becyn addysgiadol cynhwysfawr i gyflwyno’r iaith i ddysgwyr gyda chymorth Min a Mei a’u ffrindiau yn Skolaj Diwan Gwiseni a chyfeillion yn Ffrainc.  

Mae dwy brif elfen i’r pecyn: 

  1. Hyfforddiantbydd angen i unrhyw ymarferwr sy eisiau gweithredu’r pecyn fynychu hanner diwrnod o hyfforddiant arlein dros Teams.

    Bydd cyfle i chi fynychu hyfforddiant ar;

    Ddydd Iau, 8fed o Ionawr 2026 – 9-12.30yp 

  1. Mynediad i saith uned o waith i’w cyflwyno dros hanner tymor/tymor cyfan. Bydd pob uned yn cynnwys cynlluniau gwersi cyflawn, clipiau fideo, gweithgareddau, caneuon, ffeiliau sain ac adnoddau y gellir eu hargraffu i gyflwyno elfennau syml o’r iaith i ddysgwyrBydd y pecyn hefyd yn cynnwys perfformiad yn Ffrangeg y gellir ei pherfformio ar ddiwedd y saith uned. Bydd mynediad gyda chi i'r unedau am dair blynedd.  

Nid oes angen unrhyw wybodaeth o’r iaith Ffrangeg ar ymarferydd i gyflwyno’r unedau.   

Mae pris y pecyn yn amrywio yn unol â sawl defnyddiwr rydych chi eisiau i gael mynediad at y deunyddiau.

Mae 3
opsiwn:
 

  • Hyd at 3 defnyddiwr - £250 

  • Hyd at 6 defnyddiwr - £300 

  •  Hyd at 10 defnyddiwr - £400 

Mae’r pris yma yn cynnwys hyfforddiant i ddefnyddwyr a thrwydded i’r ysgol ddefnyddio’r deunyddiau  oddi fewn i ysgol y prynwr yn unig am dair blynedd.  

Ar ôl prynu’r adnodd, byddwch yn derbyn e-bost yn cynnwys ffurflen i chi gwblhau yn cadarnhau enwau ac e-byst y defnyddwyr, gan gynnwys yr hyfforddiant y byddan nhw’n mynychu. Bydd y defnyddwyr yn derbyn eu cyfrineiriau dri diwrnod cyn mynychu’r hyfforddiant a  bydd eich trwydded tair blynedd yn dechrau ar y diwrnod hwn .  

Wrth brynu, rydych yn cytuno â'r amodau ar telerau yma.

 Os oes gennych unrhyw gwestiwn, cysylltwch â post@peniarth.cymru