Balch ohona i

SKURH-BOI
ISBN9781783906031
Pwysau350g
Pris rheolaidd £6.99
Pris rheolaidd £6.99 Pris arbennig £6.99
Sêl Mas o stoc
Treth wedi'i chynnwys Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.
Mae Beca a Josh wedi eu magu fel efelliaid. Ganwyd y ddau i'w mamau wyth niwrnod ar wahân, ac maent yn rhannu'r un tad rhodd dienw.
Ond yn ddiweddar maen nhw wedi dechrau teimlo rhyw bellter rhyngddynt - mae Josh ar dân eisiau dod o hyd i'w tad rhodd, tra bod Beca yn ceisio deall ei theimladau tuag at Carli, merch o'r Unol Daleithiau sydd newydd ddechrau yn yr ysgol. Mae Beca a Josh eisiau i’w mamau fod yn falch ohonyn nhw, ond a allan nhw hyd yn oed dderbyn eu hunain?
Mae'r llyfr hwn yn berffaith i blant sy'n dechrau yn yr ysgol uwchradd, pan fo newidiadau mewn cyfeillgarwch a pherthnasoedd gyda rhieni yn gallu digwydd. Mae’r stori'n cael ei hadrodd o safbwynt Beca a Josh am yn ail, a thrwy eu lleisiau nhw cawn glywed taith dau blentyn deuddeg oed sy'n archwilio perthynas gyntaf a gwahanol fathau o gyfeillgarwch, yn ogystal â’r gefnogaeth a'r cryfder a ddaw gan eraill. Llyfr sy'n gwneud i ddarllenwyr feddwl ac ystyried, yn ogystal ag ysbrydoli sgyrsiau pwysig.

Gwybodaeth ychwanegol

Maint (mm)130 x 198 x 23
Tudalennau320