Beth Ddigwyddodd i TI?
SKU | RH-BDDIT |
---|---|
ISBN | 9781783905980 |
Pwysau | 180g |
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Mae Siôn yn mwynhau chwarae môr-ladron ar ei ben ei hun yn y parc, pan ddaw plant eraill i ymuno yn y chwarae. Daw cwestiynau wrth i’r plant sylwi mai un goes sydd gan Siôn, ac er ei fod yn sylweddoli eu bod nhw’n gwestiynau anochel, maen nhw hefyd yn gwestiynau gwirion, fel y daw’r plant eraill i sylweddoli hefyd.
Er bod Siôn wedi arfer â chlywed y cwestiynau a delio â phob math o sylwadau, mae gorfod eu hateb yn gallu bod yn ddiflas iawn. Yn y parc chwarae, a ddaw’r plant eraill i sylweddoli effaith eu cwestiynau ar Siôn? A fydd Siôn eisiau parhau i chwarae môr-ladron? Cewch wybod yr atebion wrth droi’r tudalennau.
Yn y llyfr annwyl a phwerus hwn mae’r darllenydd yn gweld safbwynt gwahanol trwy lygaid Siôn wrth iddo orfod delio ag anwybodaeth pobl eraill. Cawn ein hatgoffa hefyd o’r neges hollbwysig bod gwahaniaeth yn rhywbeth i’w ddathlu.



