Y Glas Prydferthaf
SKU | RH-YGP |
---|---|
ISBN | 9781783905973 |
Pwysau | 200g |
Pris rheolaidd
£7.99
Pris rheolaidd
£7.99
Pris arbennig
£7.99
Pris fesul uned
fesul
Treth wedi'i chynnwys
Cludiant yn cael ei gyfrifo yn y man talu.
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Mae hijab Asiya fel y môr a’i donnau’n cyfarch yr awyr. Mae yno bob amser, yn gadarn ac yn gyfeillgar.
Fel y môr a’r awyr, heb unrhyw linell rhyngddyn nhw, yn cyfarch ei gilydd gyda thon soniarus.
Mae’n ddiwrnod cyntaf yn yr ysgol i Faizah, a diwrnod cyntaf hijab ei chwaer hŷn Asiya – hijab wedi’i wneud o ddefnydd glas hardd. Ond nid yw pawb yn ymateb yr un ffordd wrth ei weld. Wrth glywed geiriau niweidiol, dryslyd, o ble ddaw cryfder i Faizah wynebu'r rhai sy'n herio?
Dyma lyfr arloesol am grefydd, chwaeroliaeth a hunaniaeth gan y gleddyfwraig a'r enillydd medal Olympaidd Ibtihaj Muhammad - y ddynes Fwslim gyntaf o UDA i gystadlu mewn hijab yn y Gemau Olympaidd.
Mae Islam a phrofiadau newydd yn themau canolog i'r llyfr, yn ogystal â'r cwlwm di-dor sydd rhwng brodyr a chwiorydd ac o fod yn falch o bwy ydych chi.


