Mynd ar y trên sgrech (cam 3)
SKU | DCHD-3-MAYTS |
---|---|
ISBN | 9781783904600 |
Pwysau | 105g |
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Fuest ti erioed ar drên sgrech? Os do, a gest ti ofn? Wyt ti’n ddigon dewr i ddilyn Edi ac Efa a wynebu pob math o bethau sy’n codi braw? Mae un o'r ddau yn edrych ymlaen yn fawr at fynd ar y trên sgrech, a’r llall yn llawn ofn. Ond pwy tybed?
Nod y gyfres ddarllen Gymraeg Dyna chi dric yw ennyn diddordeb y plant lleiaf mewn llyfrau a straeon difyr wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau darllen a dod yn ddarllenwyr hyderus. Ceir amrywiaeth o ffurfiau gwahanol yn y gyfres, yn cynnwys llyfrau ffeithiol, cyfarwyddiadau, cerdyn post a straeon ar odl. Mae’r llyfrau wedi eu graddoli ar dri cham, ac mae'r llyfr hwn ar gam 3 y gyfres.
Mae’r gyfres ddarllen hon yn addas ar gyfer dysgwyr 4-8 oed sy'n dysgu darllen yn Gymraeg sydd ar gamau cynnydd 1 a 2.
Eisiau herio'r darllenwr ymhellach? Gallwch ddod o hyd i weithgareddau rhyngweithiol, tabl geirfa a gweithgareddau trafod syml yng nghefn y llyfr i'ch cynorthwyo.
![Mynd ar y trên sgrech (cam 3)](http://siop.peniarth.cymru/cdn/shop/files/DCHD-3-MAYTS-1_582845f0-2b8a-4355-ae19-d41329a76d79.jpg?v=1706885759&width=1445)
![Mynd ar y trên sgrech (cam 3)](http://siop.peniarth.cymru/cdn/shop/files/DCHD-3-MAYTS-2_1cdf57f7-9042-49b7-87dc-9a78af89b1f0.jpg?v=1706885760&width=1445)
![Mynd ar y trên sgrech (cam 3)](http://siop.peniarth.cymru/cdn/shop/files/DCHD-3-MAYTS-3_54b6cb3e-ac0e-436e-aa9c-a1ff84a2f03d.jpg?v=1706885759&width=1445)
![Mynd ar y trên sgrech (cam 3)](http://siop.peniarth.cymru/cdn/shop/files/DCHD-3-MAYTS-4_efd83005-a285-40e1-a8fa-6c571bbf2c72.jpg?v=1706885760&width=1445)