Meic y mwnci (cam 3)
SKU | DCHD-3-MYM |
---|---|
ISBN | 9781783904587 |
Pwysau | 105g |
Mwnci bach yw Meic y Mwnci. Mae’r ddau fwnci direidus arall yn meddwl nad yw Meic y Mwnci’n gallu neidio na hongian fel nhw am ei fod yn fwnci bach. Ond mae Meic yn fwnci clyfar! Tybed beth fydd Meic yn ei wneud i ddangos ei glyfrwch?
Nod y gyfres ddarllen Gymraeg Dyna chi dric yw ennyn diddordeb y plant lleiaf mewn llyfrau a straeon difyr wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau darllen a dod yn ddarllenwyr hyderus. Ceir amrywiaeth o ffurfiau gwahanol yn y gyfres, yn cynnwys llyfrau ffeithiol, cyfarwyddiadau, cerdyn post a straeon ar odl. Mae’r llyfrau wedi eu graddoli ar dri cham, ac mae'r llyfr hwn ar gam 3 y gyfres.
Mae’r gyfres ddarllen hon yn addas ar gyfer dysgwyr 4-8 oed sy'n dysgu darllen yn Gymraeg sydd ar gamau cynnydd 1 a 2.
Eisiau herio'r darllenwr ymhellach? Gallwch ddod o hyd i weithgareddau rhyngweithiol, tabl geirfa a gweithgareddau trafod syml yng nghefn y llyfr i'ch cynorthwyo.