Pants (cam 2)
SKU | DCHD-2-P |
---|---|
ISBN | 9781783904532 |
Pwysau | 100g |
Oes gen ti gi neu anifail anwes arall? Ydy e neu hi yn gallu bod yn ddireidus weithiau ac eisiau chwarae, chwarae a chwarae mwy ... gyda dy deganau, dy ddillad ... neu dy bants?! Yn y stori hwyliog hon, cei wybod am y troeon trwstan sy’n digwydd pan fo Sam y ci yn cael gafael ar bentwr o bants glân!
Nod y gyfres ddarllen Gymraeg Dyna chi dric yw ennyn diddordeb y plant lleiaf mewn llyfrau a straeon difyr wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau darllen a dod yn ddarllenwyr hyderus. Ceir amrywiaeth o ffurfiau gwahanol yn y gyfres, yn cynnwys llyfrau ffeithiol, cyfarwyddiadau, cerdyn post a straeon ar odl. Mae’r llyfrau wedi eu graddoli ar dri cham, ac mae'r llyfr hwn ar gam 2 y gyfres.
Mae’r gyfres ddarllen hon yn addas ar gyfer dysgwyr 4-8 oed sy'n dysgu darllen yn Gymraeg sydd ar gamau cynnydd 1 a 2. Eisiau herio'r darllenwr ymhellach? Gallwch ddod o hyd i weithgareddau rhyngweithiol, tabl geirfa a gweithgareddau trafod syml yng nghefn y llyfr i'ch cynorthwyo.