Tyfu (cam 2)
SKU | DCHD-2-T |
---|---|
ISBN | 9781783904501 |
Pwysau | 100g |
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Cer i nôl dy offer garddio ... mae Jac-y-do yn barod i dy helpu di i dyfu planhigyn. Ond gyda’r offer, y pridd a’r hadau, mae hefyd angen amynedd ac amser i wylio’r planhigyn yn tyfu. Pa bethau eraill sydd eu hangen, tybed, i helpu planhigyn i dyfu?
Nod y gyfres ddarllen Gymraeg Dyna chi dric yw ennyn diddordeb y plant lleiaf mewn llyfrau a straeon difyr wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau darllen a dod yn ddarllenwyr hyderus. Ceir amrywiaeth o ffurfiau gwahanol yn y gyfres, yn cynnwys llyfrau ffeithiol, cyfarwyddiadau, cerdyn post a straeon ar odl. Mae’r llyfrau wedi eu graddoli ar dri cham, ac mae'r llyfr hwn ar gam 2 y gyfres.
Mae’r gyfres ddarllen hon yn addas ar gyfer dysgwyr 4-8 oed sy'n dysgu darllen yn Gymraeg sydd ar gamau cynnydd 1 a 2. Eisiau herio'r darllenwr ymhellach? Gallwch ddod o hyd i weithgareddau rhyngweithiol, tabl geirfa a gweithgareddau trafod syml yng nghefn y llyfr i'ch cynorthwyo.
![Tyfu (cam 2)](http://siop.peniarth.cymru/cdn/shop/files/DCHD-2-T-1_707e0625-7894-4b49-a94d-f94667e0ab7a.jpg?v=1706884972&width=1445)
![Tyfu (cam 2)](http://siop.peniarth.cymru/cdn/shop/files/DCHD-2-T-2_b3c111c1-f9b9-4dec-aebd-3024194afe7d.jpg?v=1706884972&width=1445)
![Tyfu (cam 2)](http://siop.peniarth.cymru/cdn/shop/files/DCHD-2-T-3_13ad6ea5-ad57-42c5-830d-34507f5e2ce9.jpg?v=1706884973&width=1445)
![Tyfu (cam 2)](http://siop.peniarth.cymru/cdn/shop/files/DCHD-2-T-4_33806adc-1d13-4d38-9fd8-97c7bdd556aa.jpg?v=1706884972&width=1445)