Epa (cam 1)
SKU | DCHD-1-E |
---|---|
ISBN | 9781783904488 |
Pwysau | 88g |
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Beth wyt ti’n ei wybod am yr epa? Wyt ti’n gwybod nad yw’r epa yn fwnci? Wyt ti’n gwybod bod yr epa yn debyg iawn i ti a fi? Mae llawer i’w ddysgu am yr epa, ac mae’n greadur sy’n hoffi cael hwyl hefyd!
Nod y gyfres ddarllen Gymraeg Dyna chi dric yw ennyn diddordeb y plant lleiaf mewn llyfrau a straeon difyr wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau darllen a dod yn ddarllenwyr hyderus. Ceir amrywiaeth o ffurfiau gwahanol yn y gyfres, yn cynnwys llyfrau ffeithiol, cyfarwyddiadau, cerdyn post a straeon ar odl. Mae’r llyfrau wedi eu graddoli ar dri cham, ac mae'r llyfr hwn ar gam 1 y gyfres.
Mae’r gyfres ddarllen hon yn addas ar gyfer dysgwyr 4-8 oed sy'n dysgu darllen yn Gymraeg sydd ar gamau cynnydd 1 a 2.
Eisiau herio'r darllenwr ymhellach? Gallwch ddod o hyd i weithgareddau rhyngweithiol, tabl geirfa a gweithgareddau trafod syml yng nghefn y llyfr i'ch cynorthwyo.



