Tŷ bach bach (cam 1)
SKU | DCHD-1-TBB |
---|---|
ISBN | 9781783904464 |
Pwysau | 88g |
Methu llwytho argaeledd casglu mewn person
Mae Edi yr Epa yn byw mewn tŷ bach bach ac mae gan Edi lwyth o syniadau am bethau hoffai e gael yn ei dŷ bach bach. Mae gan Edi syniadau mawr! Ond oes lle i’r holl bethau yn y tŷ bach bach?
Nod y gyfres ddarllen Gymraeg Dyna chi dric yw ennyn diddordeb y plant lleiaf mewn llyfrau a straeon difyr wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau darllen a dod yn ddarllenwyr hyderus. Ceir amrywiaeth o ffurfiau gwahanol yn y gyfres, yn cynnwys llyfrau ffeithiol, cyfarwyddiadau, cerdyn post a straeon ar odl. Mae’r llyfrau wedi eu graddoli ar dri cham, ac mae'r llyfr hwn ar gam 1 y gyfres.
Mae’r gyfres ddarllen hon yn addas ar gyfer dysgwyr 4-8 oed sy'n dysgu darllen yn Gymraeg sydd ar gamau cynnydd 1 a 2. Eisiau herio'r darllenwr ymhellach? Gallwch ddod o hyd i weithgareddau rhyngweithiol, tabl geirfa a gweithgareddau trafod syml yng nghefn y llyfr i'ch cynorthwyo.
![Tŷ bach bach (cam 1)](http://siop.peniarth.cymru/cdn/shop/files/DCHD-1-TBB-1_e122e75f-df0e-4b88-894e-73cc53177f23.jpg?v=1706884696&width=1445)
![Tŷ bach bach (cam 1)](http://siop.peniarth.cymru/cdn/shop/files/DCHD-1-TBB-2_c1ab3efe-9a9e-47d5-a0a5-e5786166e461.jpg?v=1706884695&width=1445)
![Tŷ bach bach (cam 1)](http://siop.peniarth.cymru/cdn/shop/files/DCHD-1-TBB-3_e5fb1c04-e303-4a29-80b2-c6d4e26cb64a.jpg?v=1706884694&width=1445)
![Tŷ bach bach (cam 1)](http://siop.peniarth.cymru/cdn/shop/files/DCHD-1-TBB-4_1e1d823b-95a2-4767-8ac2-2acbf8c783d3.jpg?v=1706884695&width=1445)